Damwain farwol: Apêl am dystion

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn ymchwilio wedi i feiciwr modur farw mewn damwain yn Sir Benfro.

Roedd gwrthdrawiad rhwng Mitsubishi Shogun gyriant 4x4, a beic modur Kawasaki ar y B4319 rhwng Penfro a Maidenwells yn oriau mân y bore.

Bu'r ffordd ar gau am gyfnod ond mae nawr wedi ailagor

Dylai unrhyw un â gwybodaeth ffonio'r heddlu ar 101.