Bae Caerdydd: Bachgen mewn cyflwr difrifol

Mae bachgen wedi ei gludo i'r ysbyty mewn cyflwr difrifol yn dilyn digwyddiad ym Mae Caerdydd.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw am tua 13:45 ddydd Gwener.

Cafodd bachgen yn ei arddegau ei dynnu o'r dŵr yng Nghei'r Môr Forwyn.

Mae'r bachgen yn cael triniaeth yn Ysbyty Prifysgol Cymru yng Nghaerdydd.