Cartref gofal Haulfre
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Pryder am ddyfodol cartref gofal

3 Gorffennaf 2015 Diweddarwyd 21:18 BST

Mae'n stori gyfarwydd mewn sawl rhan o Gymru, ac mae ymgyrchwyr ar Ynys Môn wedi dweud bod "dyletswydd moesol" ar y cyngor i gadw cartref gofal Haulfre ar agor.

Fe ddaeth tua 150 o bobl i gyfarfod cyhoeddus ym mhentref Llangoed nos Wener yn dilyn y penderfyniad ddydd Iau i fwrw 'mlaen ag ymgynghoriad ar ddyfodol y cartref. Dafydd Gwynn aeth i Langoed ar ran Newyddion 9.