Morgannwg yn trechu Hampshire yn y T20

Jacobus Rudolph Image copyright Getty Images
Image caption Roedd Jacobus Rudolph ar ei orau gyda'r bat, wrth iddo sgorio 77 i Forgannwg

Fe lwyddodd Morgannwg i drechu Hampshire ar gae'r Ageas Bowl yn Southampton yn y T20 Blast nos Wener, wrth i'w capten eu harwain i'r fuddugoliaeth.

Fe wnaeth yr ymwelwyr sgorio cyfanswm o 181-7 yn eu 20 pelawd, gyda'r capten Jacobus Rudolph yn sgorio uchaf gyda 77.

Er ymdrechion Michael Carberry, wnaeth sgorio uchaf i Hampshire gyda 70, roedd cyfanswm Morgannwg yn ormod i'w gyrraedd.

Fe wnaeth sgôr o 158-6 y tîm cartref olygu buddugoliaeth gyfforddus o 23 o rediadau i Forgannwg.

Dyma'r ail fuddugoliaeth oddi cartref mewn wythnos i'r tîm o dde Cymru yn y T20, wedi iddyn nhw drechu Gwlad yr Haf nos Sul.