Amheuon a fydd Jamie Roberts ar gael i Gymru bob tro

Taulupe Faletau a Jamie Roberts Image copyright Getty Images
Image caption Roedd Faletau a Roberts yng ngharfan y Llewod yn 2013

Mae'n bosib na fydd Jamie Roberts ar gael i bob un o gemau Cymru wedi iddo ymuno â chlwb Harlequins.

Fe fydd yr un peth yn wir am Taulupe Faletau os fydd yn symud i glwb Caerfaddon ar ôl Cwpan y Byd 2015.

Yn ddiweddar dywedodd hyfforddwr Cymru Warren Gatland y byddai Faletau a Roberts ar gael am holl ddyletswyddau'r tîm cenedlaethol.

Ond dywedodd llefarydd ar ran Uwchgynghrair Aviva: "Nid yw ein polisi wedi newid. Rydym yn rhyddhau chwaraewyr yn unol â rheol 9 y Byd Rygbi."

Mae'r rheol yn dweud nad oes rhaid i glybiau rhyddhau chwaraewyr ar gyfer gemau na sesiynau ymarfer y tu allan i'r 'ffenestri' swyddogol ar gyfer gemau rhyngwladol.

Mae Cymru yn gyson yn chwarae o leia un o gemau prawf yr hydref y tu allan i'r 'ffenestri' yna.

Pan ymunodd Jamie Roberts â'r Harlequins, dywedodd y pennaeth Connor O'Shea y byddai'r canolwr ar gael i Gymru "pryd bynnag y mae e angen bod".

Mae'n ymddangos bod hynny'n groes i'r datganiad swyddogol gan y corff sy'n cynrychioli clybiau Lloegr.

Mae adroddiad hefyd y gallai trosglwyddiad Faletau i Gaerfaddon gael ei atal oherwydd ansicrwydd a fydd ar gael i Gymru bob tro.

Credir y gallai Warren Gatland rhwystro'r Dreigiau rhag ei rhyddhau cyn i'w gytundeb ddod i ben yn haf 2016 o dan gytundeb rhwng rhanbarthau Cymru ac Undeb Rygbi Cymru.

Arweiniodd safiad Uwchgynghrair Lloegr at ddirwy i glwb Northampton Saints o £60,000 wedi iddyn nhw arwyddo George North gyda'r dealltwriaeth y byddai ar gael am ei holl ddyletswyddau gyda Chymru.

Cafodd North ei rhyddhau i chwarae yn erbyn Awstralia ym mis Tachwedd ar ôl ymuno gyda'r clwb er nad oedd honno'n gêm 'swyddogol'.

Mae Rhys Priestland eisoes wedi ymrwymo i chwarae dros Gaerfaddon ar ôl Cwpan y Byd, ond mae'n cyfadde' y gallai hynny niweidio'i yrfa ryngwladol.

Straeon perthnasol