Dau Gymro'n dechrau'r Tour

Rowe a Thomas
Image caption Luke Rowe a Geraint Thomas cyn i'r Tour ddechrau

Mae ras feicio'r Tour de France wedi dechrau yn Utrecht yn Yr Iseldiroedd.

Am y tro cyntaf erioed mae dau Gymro ymhlith y cystadleuwyr.

Roedd y cymal cyntaf yn ras yn erbyn y cloc, gyda'r dyn o Awstralia Rohan Dennis yn ennill mewn amser o 14'56", ac fe fydd yn gwisgo'r siwmper felen ar ddechrau'r ail gymal yfory.

Luke Rowe oedd y Cymro cyntaf i ddechrau, a hynny yn ei ymgais gyntaf yn Le Tour.

Gorffennodd Rowe mewn amser o 16'50" gan ei adael yn safle 180, ond gweithiwr i Team Sky fydd Rowe dros y tair wythnos nesaf, ac ni fydd ei amser ddydd Sadwrn yn ormod o siom iddo.

Roedd y gobeithion yn uwch am Geraint Thomas. Hanner ffordd drwy'r cymal roedd Thomas o fewn pum eiliad i amser Dennis ar yr un pwynt.

Fe gollodd beth amser yn yr ail hanner gan orffen yn y 12fed safle mewn amser o 15'29".

Er bod hynny'n safle ac amser digon clodwiw, fe ddywedodd Thomas ar y diwedd nad oedd yn teimlo'n dda o gwbl.

"Ro'n i'n gwybod o'r dechrau," meddai. "Am ryw reswm doedd dim byd yn y coesau er mod i wedi dechrau'n dda.

"Allai ddim egluro'r peth, allai ond gobeithio y byddai'n teimlo'n well yfory."

Gorffennodd Chris Froome yn safle 39 mewn amser o 15'46", a phencampwr y Tour yn 2014, Vincenzo Nibali yn safle 22 mewn 15'39".