Enwi gyrrwr beic modur fu farw

B4319 Image copyright Google
Image caption Cafodd y B4319 ei chau am gyfnod wrth i'r heddlu ymchwilio

Mae enw beiciwr modur fu farw mewn gwrthdrawiad â cherbyd 4X4 yn Sir Benfro wedi cael ei gyhoeddi.

Bu farw Peter MacKay, 63 oed o Maidenwells, mewn gwrthdrawiad gyda cherbyd Mitsubishi Shogun llwyd ar y B4319 o Benfro i Maidenwells ar 2 Gorffennaf.

Dywedodd Heddlu Dyfed Powys bod Mr MacKay, oedd yn gyrru beic Kawasaki du adeg y gwrthdrawiad, yn gweithio gyda Gwasanaeth Ambiwlans Cymru.

Mae'r heddlu hefyd yn gofyn i unrhyw un oedd yn dyst i'r ddamwain i'w ffonio ar 101 wrth iddyn nhw ymchwilio'r digwyddiad.

Straeon perthnasol