Ymgeiswyr Llafur yng Nghymru

Newsnight Labour hustings 2015
Image caption Bydd Yvette Cooper, Jeremy Corbyn, Liz Kendall ac Andy Burnham yn ateb cwestiynau yn Neuadd y Ddinas Caerdydd

Bydd y pedwar ymgeisydd am arweinyddiaeth y blaid Lafur yn cynnal hustyngau yng Nghaerdydd yn ddiweddarach ddydd Sul.

Mae Andy Burnham, Yvette Cooper, Jeremy Corbyn a Liz Kendall yn gobeithio olynu Ed Miliband a ymddiswyddodd wedi i Lafur golli'r etholiad cyffredinol ym mis Mai.

Mae'r pedwar wedi son am adeiladu ar lwyddiant Llafur yng Nghymru, yr unig ran o'r DU lla mae'r blaid mewn grym.

Bydd yr enillydd, a fydd yn cael ei ddewis mewn pleidlais o holl aelodau'r blaid, yn cael ei enwi ym mis Medi.

Bydd y cyfarfod yng Nghaerdydd - sy'n dechrau a 11:30 ddydd Sul, 5 Gorffennaf - yn dod cyn cyfarfod tebyg arall i'r ymgeiswyr am y dirprwy arweinyddiaeth.

Ben Bradshaw, Stella Creasy, Angela Eagle, Caroline Flint a Tom Watson sy'n gobeithio olynu Harriet Harman i'r swydd honno.

Mae hithau ar hyn o bryd yn arweinydd dros dro i'r blaid, ond bydd yn camu o'r neilltu pan fydd yr arweinydd a dirprwy arweinydd newydd yn cael eu cadarnhau.