Cwest i farwolaeth Trudy Jones

Trudy Jones Image copyright family via Gwent police
Image caption Roedd Trudy Jones yn gweithio mewn cartef gofal yn y Coed Duon, Sir Caerffili

Clywodd cwest fod mam i bedwar o'r Coed Duon wedi ei lladd gan un fwled ar ôl cael ei saethu ar draeth yn Tunisia.

Roedd Trudy Jones, 51 oed ymhlith 38 a gafodd eu lladd, 30 ohonynt o Brydain ar y traeth yn Sousse yn dilyn ymosodiad terfysgol.

Clywodd Llys Crwner Gorllewin Llundain i awdurdodau Tunisia adnabod ei chorff drwy ddefnyddio cofnodion deintyddol.

Fe wnaeth y crwner Chinyere Inyama ryddhau corff Ms Jones i'w theulu er mwyn iddynt wneud trefniadau angladdol.

Mewn datganiad dywedodd ei theulu: "Doedd ein mam o bawb ddim yn haeddu hyn. Roedd hi'n berson llawn gofal oedd yn rhoi pobl eraill yn gyntaf.

"Roedd hi o hyd yn barod i helpu eraill, yn caru pawb oddi cwmpas gan gynnwys y bobl oedd hi yn gofalu amdanyn nhw fel rhan o'i gwaith. "