Prifeirdd a Pop Tarts

Guto Dafydd

Y llynedd roedd Guto Dafydd ymhlith y beirdd ieuengaf erioed i ennill Coron yr Eisteddfod Genedlaethol. Rwan, bron i flwyddyn yn ddiweddarach mae'n cyhoeddi 'Stad', ei nofel gyntaf i oedolion.

Mi ofynnodd Cymru Fyw iddo roi ei asesiad o lenyddiaeth Gymraeg yn 2015:

'Nostaljia'

Yn ddiweddar, cefais fy hun yn bwyta Pop Tart am y tro cyntaf. Doedd o ddim yn brofiad annymunol, er bod y crwst braidd yn drwm at fy nant i, a'r eisin yn rhy felys ar gyfer amser brecwast.

Ond pam wnes i brynu Pop Tarts o gwbl?

Cael fy sgubo wnes i ar y don fawr bresennol o nostaljia am y nawdegau.

Super Furry Animals; 'TFI Friday'; trowsusau blodeuog; Blur a'r Gallaghers: mae'n amhosib dianc rhag y ddegawd pan ges i fy magu. Dwi'n darogan y bydd Martyn Geraint ac Wcw a 'Slot Meithrin' ar S4C eto cyn pen dim.

Ond ar ôl i Cymru Fyw ofyn am ddarn yn asesu cyflwr llenyddiaeth Gymraeg heddiw, mi sylweddolais i (wrth lyncu'r darn olaf o'm Pop Tart) mai'r ateb i'n llên ydi troi'n ôl at y nawdegau.

Gwersi'r 90au

Mae cymaint ag erioed o dalent ifanc yn sgwennu yn Gymraeg, gyda llwyddiant Llŷr Gwyn Lewis a Rhys Iorwerth yn Llyfr y Flwyddyn 2015 yn ymgorffori hynny.

Image caption Llŷr Gwyn Lewis a Rhys Iorwerth, dau awdur ifanc gafodd lwyddiant yng ngwobrau Llyfr y Flwyddyn 2015

Mae cefnogaeth Llenyddiaeth Cymru, a mentrau fel Bardd Plant Cymru a'r Lolfa Lên, hefyd yn blatfforms gwerth chweil. Ond dwi'n credu y gallai'r sîn lenyddol fod yn fwy mentrus a beiddgar - a chyrraedd mwy o bobl hefyd.

Felly beth sydd gan y nawdegau i'w ddysgu i ni? Beth oedd yn digwydd yn y cyfnod hwnnw?

Dan arweiniad Myrddin ap Dafydd, Iwan Llwyd ac eraill, roedd criw o feirdd yn mynd â sioeau barddol ar daith o gwmpas tafarndai a chlybiau Cymru - gan ddangos mai ar lafar gyda chynulleidfa fyw y mae barddoniaeth yn gweithio orau. Mae nosweithiau fel Bragdy'r Beirdd yng Nghaerdydd yn cynnal yr ysbryd hwnnw, ond ddim yn crwydro Cymru benbaladr.

Roedd awduron fel Eirug Wyn a Bethan Gwanas yn cyhoeddi nofelau darllenadwy, poblogaidd a oedd yn apelio at nifer fawr o bobl.

Image caption Bethan Gwanas, un o'r llenorion sy'n credu'n gryf mewn sgwennu deunydd darllenadwy

Sefydlwyd 'Tu Chwith', cylchgrawn a roddai ofod i ysgolheigion ifanc wyntyllu theorïau avant garde, ac i lenorion ifanc fentro cyhoeddi gwaith am y tro cyntaf. Diddymwyd grant y cylchgrawn ychydig flynyddoedd yn ôl.

Marwolaeth oedd prif thema awdlau buddugol cystadleuaeth y Gadair yn yr wythdegau, ond roedd arddull fwy ystwyth ac agweddau mwy gobeithiol yn awdlau Prifeirdd newydd fel Myrddin ap Dafydd (1990), Robin Llwyd ab Owain (1991) a Mei Mac (1993).

Aeth nifer o nofelwyr y nawdegau ati i dynnu naturiolaeth yn grïau - gydag ôl-foderniaeth yn cyrraedd ei llawn dwf. Mae 'ôl-foderniaeth' y teip o air y mae pobl mewn siacedi brethyn yn ei ddweud drwy'u trwyn wrth drio edrych yn glyfar.

Ond mae'n golygu llenyddiaeth sy'n gwrthdaro â moderniaeth, gan gynnwys y syniad y dylai nofel neu stori adlewyrchu realiti gydag arddull naturiolaidd.

Arweiniodd Wiliam Owen Roberts y ffordd ddiwedd yr wythdegau gyda'r nofelau 'Bingo' ac 'Y Pla', a oedd yn chwarae â syniad y darllenydd o amser ac o ddibynadwyedd y naratif.

Dyna Robin Llywelyn wedyn, yn ennill y Fedal Ryddiaith yn 1992 ac 1994 gyda chwedlau modern mewn byd ffantasi a oedd rywle rhwng y Mabinogi a sci-fi ddyfodolaidd. A chreadigaethau absẁrd, ffantasïol Mihangel Morgan ar ben hynny.

Mae'n teimlo fel bod llenyddiaeth Gymraeg wedi cilio'n ôl at naturiolaeth ddiflas - rhai realaidd oedd nofelau diwethaf Wiliam Owen Roberts a Robin Llywelyn, a rhoddodd beirniaid Llyfr y Flwyddyn 2015 nofel hanes Jerry Hunter, 'Y Fro Dywyll', ar y rhestr fer - yn hytrach na'i gampwaith arbrofol 'Ebargofiant'.

Mae llyfrau fel 'Sais', 'Alun Cob' ac 'Y Ddyled', Llwyd Owen yn dangos bod arbrofi'n dal i ddigwydd, ond ydan ni'n dal yn torri tir newydd o ran ffurf?

Image caption Llwyd Owen, nofelydd cignoeth ac arbrofol

Digwyddai hyn i gyd yn erbyn cefndir o gyffro gwleidyddol, gyda Chymru'n pleidleisio dros ddatganoli. Mae'n cyfnod ni'n fwy statig, ac mae'n debyg fod llenyddiaeth yn adlewyrchu'r ffaith honno.

Poblogeiddio llên a mynd â hi allan at y bobl; arbrofi â ffurfiau a rhoi gofod i lenorion ifanc: dylai llenyddiaeth Gymraeg wisgo'i roller-blades a'i thracwisg liwgar, a sglefrio'n ôl i ddisgo'r nawdegau.

Ond does dim pwynt i lenorion eistedd yn ôl a disgwyl i rywun mewn swyddfa glicio'i fysedd. Ac allwn ni ddim troi'r cloc yn ôl chwaith.

Ein cyfrifoldeb ni ydi chwilio am arddulliau mentrus, negeseuon ffres a chynulleidfaoedd newydd i lenyddiaeth Gymraeg ein cyfnod ni.

Ond yn gyntaf, dwi am fwyta Pop Tart arall a gwrando ar 'Don't Look Back In Anger'.

Mae 'Stad' gan Guto Dafydd yn caelei chyhoeddi gan Y Lolfa ym mis Gorffennaf 2015