Cynghrair y Pencampwyr: Y Seintiau Newydd yn camu ymlaen

Mike Wilde yn sgorio i'r Seintiau Image copyright PA
Image caption Mike Wilde oedd arwr y Seintiau yn erbyn B36 Tórshavn

Sgoriodd Mike Wilde deirgwaith wrth i'r Seintiau Newydd guro B36 Tórshavn 4-1 yn Neuadd y Parc i sicrhau buddugoliaeth o 6-2 dros y ddau gymal yn rownd ragbrofol gyntaf Cynghrair y Pencampwyr.

Dyma'r tro cyntaf ers 2010 i'r Seintiau ennill dros ddau gymal yn y gystadleuaeth. Pencampwyr Hwngari, Videoton, fydd y gwrthwynebwyr yn y rownd nesaf.

Gôl hwyr Wilde roddodd y fantais i bencampwyr Cymru wedi'r cymal gyntaf yn Ynysoedd Ffaro, ac roedd y Seintiau'n rheoli'n llwyr wrth i'r ymosodwr sgorio ddwywaith yn hanner cyntaf yr ail gêm.

Daeth trydedd Wilde wedi'r egwyl, cyn i Matty Williams wneud hi'n 4-0 munud o'r diwedd.

Roedd digon o amser ar ôl i'r ymwelwyr daro'n ôl wrth i Lucasz Cieslewicz - brawd chwaraewr y Seintiau Adrian Cieslewicz - rwydo, ond noson y Seintiau oedd hi.

Mi fydd Y Bala, Y Drenewydd ac Airbus UK Brychdyn yn chwarae eu gemau nhw yng Nghynghrair Europa nos Iau.

Straeon perthnasol