Caerdydd yn cynnal gêm agoriadol cyfres y Lludw

Wrn y Lludw yn Stadiwm Swalec Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Wrn y Lludw yw'r tlws lleiaf ym myd chwaraeon rhyngwladol

Awstralia oedd y ffefrynnau clir wrth i gyfres y Lludw yn erbyn Lloegr gychwyn yng Nghaerdydd ddydd Mercher.

Buddugoliaeth ysgubol o 5-0 oedd y sgôr rhwng y ddwy wlad y tro diwethaf iddyn nhw wynebu ei gilydd flwyddyn a hanner yn ôl yn Awstralia.

Llai na pum mis ynghynt, Lloegr enillodd y gyfres flaenorol 3-0 wrth chwarae gartref.

Mae hi'n chwe blynedd union ers y tro diwethaf i'r ddau dîm gwrdd yng Nghaerdydd, pan frwydrodd Lloegr yn ystyfnig am gêm gyfartal.

Fel pryd hynny, roedd yn benderfyniad dadleuol i lwyfannu'r gêm agoriadol yn Stadiwm Swalec eleni wrth i nifer fynnu mai un o'r meysydd "traddodiadol" ddylai gael y fraint.

Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Alastair Cook neu Michael Clarke fydd yn codi'r wrn ar ddiwedd y gyfres?

Ond mae cyn chwaraewr Lloegr a Morgannwg, Robert Croft, yn gwbl sicr bod y stadiwm, sy'n dal 15,000 o bobl, yn haeddu'r gêm eto.

"Mae'n arbennig i Gaerdydd ac mae'n arbennig i Gymru," meddai Croft, sydd bellach yn rhan o dîm hyfforddi Morgannwg.

"Pan ry'n ni'n cofio nôl i 2009, roedd hi'n gêm gyffrous iawn ac roedd pawb wnaeth chwarae ar y cae wedi cael amser llwyddiannus.

"A hefyd y peth pwysig iawn, roedd pob un o'r cefnogwyr ddaeth i weld y gêm wedi cael amser arbennig o dda."

Cyfres y Lludw 2015

8-12 Gorffennaf: Prawf Gyntaf (Stadiwm Swalec, Caerdydd)

16-20 Gorffennaf: Ail Brawf (Lord's, Llundain)

29 Gorffennaf-2 Awst: Trydedd Prawf (Edgbaston, Birmingham)

6-10 Awst: Pedwaredd Prawf (Trent Bridge, Nottingham)

20-24 Awst: Pumed Prawf (Kia Oval, Llundain)

"Mae cael gemau fel hyn yng Nghymru yn gwneud llawer i'r wlad ar draws y byd."

Yn ôl Bwrdd Criced Cymru a Lloegr, mi fydd llwyfannu'r gêm yn cyfrannu £25m i economi'r brifddinas.

Mae pob tocyn wedi ei werthu ar gyfer y pedwar diwrnod cyntaf, ac mae'r rhagolygon tywydd yn argoeli'n dda wrth i Awstralia geisio ennill cyfres yn Lloegr am y tro cyntaf ers 2001.

Mae arweinyddiaeth capten Lloegr Alastair Cook wedi ei feirniadu'n ddiweddar - yn enwedig wrth golli'n drwm yn Awstralia - ond mae o'n hyderus y bydd y gyfres hon yn dra gwahanol.

"Mae'r gyfres ddiwethaf wedi hen fynd, fedrwn ni ddim rhygnu 'mlaen ynglŷn â honno," meddai wrth ymarfer am y tro olaf yng Nghaerdydd.

"Pum mis cyn hynny, mi enillon ni 3-0 wrth chwarae gartref. Mae'n rhaid i ni fod yn ofalus i beidio cymryd gormod o sylw o hynny.

"Mae hon yn her hollol newydd ac yn gychwyn newydd."