Cofio 7/7: Atgofion gohebydd

Bws Tavistock Square Image copyright PA
Image caption Cafodd 13 o bobl eu lladd ar fws yn Tavistock Square - bu Sara'n gohebu oddi yno y noson honno

10 mlynedd yn ôl, roedd Sara Gibson yn ohebydd gyda BBC Cymru yng Nghaerdydd. Fe gafodd ei hanfon i Lundain i ohebu ar yr ymosodiad terfysgol yn Llundain, ac mae hi wedi rhannu ei phrofiadau gyda Cymru Fyw.

Mae gwylio'r seremoniau i gofio'r 52 a fu farw yn Llundain 10 mlynedd yn ôl yn dod ag atgofion lu i'r cof. Rhai swreal yn bennaf, ond hefyd rhai trist.

Ro'n i newydd godi o'r gwely yn fy nghartref yng Nghaerdydd ar fore Gorffennaf 7, 2005 pan droiais y radio ynghyn a chlywed adroddiadau am nam pŵer oedd wedi bod ar y trenau tanddaearol yn Llundain.

Ychydig fisoedd ynghynt roeddwn newydd ddychwelyd ar ôl cyfnod yn gweithio yn y ddinas ar BBC News 24. Fel un arferai ddal y tiwb i Shepherd's Bush roeddwn, yn naturiol, yn chwilfrydig, a throis y teledu ymlaen i geisio darganfod mwy.

Bryd hynny synhwyrais fod y diffyg gwybodaeth yn dweud cyfrolau.

Image copyright Getty Images
Image caption Bu farw chwech o bobl yn Edgware Road lle ffrwydrodd Mohammad Sidique Khan ei fom

'Nerfusrwydd'

Ffoniais y ddesg newyddion yn Llandaf.

"Mae fy mhasys diogelwch yn dal i weithio yn TV Centre a Millbank", medde fi, yn meddwl falle y bydden i'n gallu bod o gymorth drwy anfon lluniau neu wneud darnau radio oddi yno.

Yn fuan wedyn, cefais y golau gwrdd, ac i ffwrdd â mi i lawr yr M4, i gyfeiriad pont Hafren.

Wrth feddwl 'nôl, doeddwn i ddim mewn gwirionedd yn sylweddoli beth oedd ar fin digwydd. Roeddwn yn gyrru i ddinas nad oedd yn gwybod yn iawn beth oedd hi'n ceisio dygymod ag e.

Wrth wrando ar y radio yn y car, daeth y darlun rhywfaint yn gliriach, ond eto roedd 'na nerfusrwydd yn lleisiau'r gohebyddion oedd yn ceisio adrodd yr hyn roedden nhw'n ei weld a'i glywed o'u hamgylch.

Wedyn cyrraedd Reading, ac edrych draw at ochr orllewinol y draffordd. Roedd 'na lif cyson o geir yn gyrru allan o Lundain. Dim ond un car arall a finnau oedd yn gyrru tuag atyn nhw. Erbyn cyrraedd pont Hammersmith roedd y traffig allan yn drwm.

Gadewais fy nghar mewn llecyn anghyfreithlon ger y Ganolfan Ddarlledu yn Shepherds Bush. Doedd poeni am gael tocyn parcio ddim yn bwysig y diwrnod hwnnw.

Image caption Fe gafodd canhwyllau eu cynnau mewn gwasanaeth i nodi deng mlynedd ers yr ymosodiadau fore Mawrth

'Yn eich sobri'

Cyrraedd lloches yr ystafell newyddion yn TVC, a chael cyfarwyddyd i geisio dod o hyd i Gymry Llundain er mwyn mynd i gwrdd â nhw. Ond doedd dim modd cael gafael ar neb. Roedd ffonau symudol y ddinas yn fud - darganfyddais yn ddiweddarach bod yr heddlu wedi mynnu troi pob mast i fffwrdd, rhag ofn y byddai 'na ddyfeisiau eraill.

Ac yna daeth y newyddion bod 'na farwolaethau. Llawer ohonyn nhw. Roedd yr adrenalin yn dechrau pallu, a difrifoldeb y sefyllfa yn eich sobri.

Roedd ceisio cael gafael ar dacsi'r diwrnod hwnnw'n amhosib. Gyda'r trenau tanddaearol ar stop, a'r bysiau hefyd, nhw oedd yr unig drafnidiaeth gyflym. Ond ar ôl dal un gyda fy nghynhyrchydd Rhian a chyrraedd y canol, fe darodd rhywbeth arall fi. Roedd pobl, yng nghanol Llundain, yn siarad gyda'i gilydd. Dieithriaid yn holi dieithriaid eraill, yn helpu ei gilydd i ddod o hyd i ffyrdd i fynd adre' (roedd y mwyafrif o swyddfeydd yng nghanol y ddinas wedi cau yn gynnar, neu heb agor o gwbl).

Edrych ar eu traed y mae'r rhan fwyaf o ddinasyddion Llundain wrth deithio o un pen i'r llall gan amlaf. Edrych i fyw llygaid ei gilydd oedd pawb y diwrnod hwnnw, a defnyddio'u traed i gerdded adre'.

Y noson honno cefais y profiad mwyaf ysgytwol i gyd. Roedd y criw yng Nghaerdydd wedi llwyddo i gael amser lloeren gydag un o'r tryciau darlledu oedd yn agos at Russell Square. Yno roedd bws yn sefyll, gyda'i do yn hongian tu cefn iddo. Dyma fyddai'r gefnlen i fy adroddiad byw. Gwyddwn ar y pryd fod o leia' wyth wedi marw yno (y cyfanswm terfynol oedd 13), ac roeddwn i'n sefyll 100 llath i ffwrdd.

Roedd 'na dawelwch yno na'i glywir yn Llundain fyth. Dim sŵn traffig, dim seiren heddlu. Dim ond mwmian newyddiadurwyr. Mae cael bod yn dyst i hanes yn un o brif ddyheadau newyddiadurwr. Doedd cael bod yn Russell Square y noson honno ddim yn teimlo fel anrhydedd.

Image copyright Metropolitan Police
Image caption Bu farw saith o bobl ar drên tanddaearol ger gorsaf Aldgate

'Wedi ymlâdd'

Y diwrnod canlynol cefais sgwrs gyda ficer oedd wedi agor ei eglwys ger gorsaf Liverpool Street yn lloches i heddweision. Dywedodd bod y mwyafrif wedi ymlâdd ar ôl bod yn gweithio drwy'r nos yn gwneud yn siŵr bod pawb allan o'r twneli.

"Mae'r cyfan wedi bod yn afreal", meddai, "ond fe ddown ni drwyddi. Mae Llundain a'i phobl yn gryf, ac mae hyn wedi dod â ni'n agosach."

Wrth ymweld â Llundain 10 mlynedd yn ddiweddarach, mae'n amlwg fod pobl wedi symud ymlaen.

Ond mae 'na rai hen arferion sy'n parhau, er waetha'r diwrnod swreal hwnnw. Dyw pobl ddim yn edrych i fyw llygaid ei gilydd, ac mae'r mwyafrif yn parhau'n ddieithriaid.

Straeon perthnasol