125 o swyddi'n diflannu yng Nghasgwent

Pontydd
Image caption Mae'r cwmni'n darparu deunydd ar gyfer tyrbeini gwynt

Mae ffatri yn Sir Fynwy, y mae busnes 160 o flynyddoedd oed yn berchen arni, yn cau a 125 o swyddi'n diflannu.

Yn Rhagfyr cyhoeddodd Mabey Bridge yng Nghasgwent eu bwriad i gau ac ers hynny maen nhw wedi bod yn chwilio am brynwr.

Bydd y ffatri'n cau ym Medi.

Mae'r cwmni'n darparu deunydd ar gyfer tyrbeini gwynt, yn enwedig ar gyfer prosiectau milwrol, trafnidiaeth, olew a nwy.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod hyn yn "newyddion drwg" a bod help wedi ei gynnig i helpu staff ddod o hyd i swyddi neu gael eu ailhyfforddi.

Ar y gweill mae cyfnod ymgynghori am 45 o ddiwrnodau.