Llandrindod: Dyn yn y llys wedi ei gyhuddo o lofruddio

Craig Thomas Savage Image copyright Dyfed-Powys Police
Image caption Bu farw Craig Thomas Savage yn dilyn digwyddiad yn Llandrindod ddydd Sul

Mae dyn o Bowys wedi ymddangos gerbron llys wedi ei gyhuddo o lofruddio dyn arall yn Llandrindod.

Mae Mark Leigh Thomas, 25, wedi ei gyhuddo o lofruddio Craig Thomas Savage, 31, ar Stryd Temple yn oriau man ddydd Sul.

Yn ymddangos ar gysylltiad fideo yn Llys y Goron Abertawe, siaradodd ond i gadarnhau ei enw.

Cafodd yr achos ei ohirio tan 19 Awst.