Canghellor yn cyhoeddi'r gyllideb yn Nhŷ'r Cyffredin

George Osborne with the red box Image copyright Reuters

Mae'r Canghellor George Osborne wedi cyhoeddi ei gyllideb yn Nhŷ'r Cyffredin, un, meddai, ar gyfer "pobl sy'n gweithio'n galed".

Cyhoeddodd gyflog byw newydd o £7.20 yr awr fydd yn dechrau'r flwyddyn nesaf, ac yn codi i £9 yr awr erbyn 2020.

Ond yn ei araith cyfeiriodd at doriadau i gredydau treth, lleihau uchafswm budd-daliadau o £26,000 i £20,000 i bob cartref a rhewi budd-daliadau i bobl oed gweithio am bedair blynedd.

Wrth gyhoeddi'r gyllideb, dywedodd mai'r nod fyddai DU lle byddai "cyflogau uwch, trethi is a budd-daliadau llai".

Rhewi trethi

Dywedodd Mr Osborne y byddai'r £12bn o doriadau i'r wladwriaeth les, gafodd eu addo ym maniffesto'r blaid, yn cael eu cyflwyno dros gyfnod o dair blynedd yn hytrach na dwy.

Mae trethi i bobl oed gweithio wedi eu rhewi am y pedair blynedd nesaf a bydd hyn yn effeithio ar gredydau treth a lwfans tai.

Ond ni fydd yn effeithio ar dâl mamolaeth na budd-daliadau i'r anabl.

Dywedodd fod y llywodraeth wedi ymrwymo i osod lleiafswm cyllid a mwy o bwerau i Gymru yn ogystal â gwelliannau i'r M4 a'r rheilffyrdd.

Hefyd cyhoeddodd £8 biliwn ychwanegol i'r Gwasanaeth Iechyd yn Lloegr allai olygu £400 miliwn ychwanegol i Gymru dan reolau Fformiwla Barnett.

Yn ei araith cyfeiriodd at:

  • Cynnydd yn nhrothwy treth etifeddu i £1m erbyn 2017;
  • Treth gorfforaeth wedi ei thorri i 18% erbyn 2020;
  • Treth tanwydd wedi ei rhewi am weddill y flwyddyn;
  • Hawl i gynghorau amrywio oriau masnachu ar ddydd Sul;
  • Ni fydd rhaid i gerbydau newydd gael prawf MOT am bedair blynedd yn hytrach na thair blynedd.

Dadansoddiad James Williams, Gohebydd Seneddol

Gyda chymaint o eitemau'r gyllideb wedi eu cyhoeddi o flaen llaw, y cwestiwn oedd - a fydd y Canghellor yn tynnu ambell i gwningen allan o'i focs coch y prynhawn yma? Yn sicr fe wnaeth e hynny, ac roedd y gwningen ola'n glompen.

Yn y gyllideb Geidwadol gyntaf ers 1996, fe gyhoeddodd George Osborne y byddai'r llywodraeth yn cyflwyno cyflog byw o £9 yr awr erbyn 2020.

Cyhoeddiad nodweddiadol am ddau reswm: 1) Achos bod e'n mynd yn bellach nag addewid Llafur yn ystod yr etholiad i sefydlu cyflog byw o £8 yr awr; 2) Mae'n lleddfu rhywfaint o'r boen sydd i'w ddod yn y toriadau mawr i'r wladwriaeth les.

Dywedodd George Osborne mai cyllideb ar gyfer "pobl sy'n gweithio'n galed" oedd hon, ac roedd rhaid iddo gynnig rhyw fath o anrheg i'r bobl hynny sy'n mynd i fod ar eu colled oherwydd y £12bn o ostyngiad yn y wladwriaeth les.

Mae'r cyhoeddiad hwnnw, yn ogystal â'r toriadau yn y dreth incwm, yn cyd-fynd gyda'r syniad o 'Geidwadaeth coler glas'.

Ond, mae rhaid cofio bod yna doriadau mawr ar y ffordd - bydd yn rhaid craffu'r glo man i weld pa mor boenus y byddan nhw. Er, does dim amheuaeth, fe fyddan nhw'n brathu i rai o'r tlotaf yn ein cymdeithas.

Bydd rhaid aros hefyd tan ddatganiad yr hydref i weld sut fydd £20bn yn cael ei dorri o gyllidebau adrannau'r llywodraeth.

Cyhoeddiad mawr gyntaf y Canghellor oedd y byddai'r diffyg yn y gyllideb yn cael ei ddiddymu yn 2019/20 - blwyddyn yn hwyrach na'r cynllun gwreiddiol. Ymateb oedd hwn i'r feirniadaeth mai "roller-coaster" ariannol oedd y cynllun gwreiddiol.

Cyn cyhoeddi'r gyllideb, roedd ffynonellau'r llywodraeth yn dweud y byddai'n "sefydlu termau'r ddadl wleidyddol am y ddegawd sydd i ddod". Does dim dwywaith bod George Osborne wedi gwneud hynny heddiw.

Image copyright PA
Image caption Yn lle grantiau, bydd myfyrwyr yn derbyn benthyciadau o 2017 ymlaen

Ar Twitter, dywedodd llefarydd Llafur ar Gymru, Owen Smith, ei fod yn amau a fyddai'r cyflog byw yn lleihau effaith y "toriadau enfawr" i gredydau treth.

Ond yn ôl Ysgrifennydd Cymru, Stephen Crabb, mae'r gyllideb yn rhoi "sail gadarn i alluogi i Gymru ffynnu".

Dywedodd AS Plaid Cymru, Jonathan Edwards: "Bydd y toriadau lles o £12bn a gyhoeddwyd yn costio dros £500m y flwyddyn i'r economi Gymreig, gyda thoriadau i gredydau treth yn debygol o gosbi miloedd o deuluoedd mewn gwaith yng Nghymru."

Ychwanegodd: "Ni fydd pobl yn cael eu twyllo gan eiriau gwag y Canghellor - dim ond isafswm cyflog tipyn uwch yw'r 'Cyflog Byw Cenedlaethol' newydd. Nid yw'n gyflog byw go iawn o bell ffordd ac nid yw'n gwneud yn iawn am y difrod a wneir gan y toriadau i'r credydau treth."

Yn ôl AS y Democratiaid Rhyddfrydol, nid yw'r gyllideb yn cynnig y "golwg bositif" y mae Cymru ei hangen.

"Roedd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru eisiau clywed mesurau i atal economi Cymru rhag disgyn y tu ôl i weddill y DU. Roedden ni eisiau cynlluniau am DU mwy gwyrdd a pholisïau i helpu pobl i wneud y mwyaf o'u bywydau.

"Yn anffodus, nid oedd y rhain yn y gyllideb heddiw."

'Cefnogaeth'

Dywedodd Fran Targett, Cyfarwyddwr Cyngor ar Bopeth Cymru: "Er bod yr economi'n tyfu, bob dydd yn ein canolfannau cynghori rydyn ni'n gweld pobl sy'n ei chael hi'n anodd oherwydd swyddi cyflogau isel sy' ddim yn barhaol.

"Mae bron yn amhosib iddyn nhw ymdopi â chostau o ddydd i ddydd.

"Gan fod mwy o newidiadau i'r system les ar y gweill, mae'n hanfodol eu bod yn cael cefnogaeth er mwyn addasu at ddiwygio'r drefn fel bod modd iddyn symud ymlaen."

Mae Janet Jones, Cadeirydd Uned Polisi Ffederasiwn y Busnesau Bychain, wedi dweud: "Mae 'na elfennau positif yn y Gyllideb, gan gynnwys lleihau'r dreth gorfforaethol ...

"Ond mae'n bosib y bydd y cyflog byw'n heriol i rai o'n haelodau, yn enwedig y rhai sy' ddim yn gymwys i dderbyn cynnydd yn y lwfans gyflogaeth."