Addysg Gymraeg: Beirniadu cynghorau

Meri Huws
Image caption Mae Meri Huws yn credu nad yw'r cynghorau yn gwneud digon ar hyn o bryd

Mae Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws, wedi dweud wrth aelodau'r cynulliad fod cynlluniau cynghorau i ateb y galw am addysg Gymraeg yn ddiffygiol.

Ers 2014 mae wedi bod yn ofynnol i gynghorau roi cynlluniau gerbron Llywodraeth Cymru yn dangos sut maen nhw am sicrhau fod y ddarpariaeth ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg yn ddigonol.

Wrth roi tystiolaeth i'r pwyllgor addysg ddydd Mercher fe wnaeth Ms Huws fynegi pryder "nad oes gan y Llywodraeth y grym i orfodi cynghorau i weithredu eu cynlluniau."

Hefyd fe honnodd nad oedd cynigion y cynghorau yn ddigon uchelgeisiol a bod yna "wendidau mawr" yn y ddarpariaeth bresennol.

Fe wnaeth Aled Roberts, AS Gogledd Cymru, gyfeirio at brofiadau un o'i etholwyr yn ardal Wrecsam oedd wedi methu cael lle i'w phlant mewn ysgol cyfrwng Cymraeg.

Anfon yn ôl

Wrth ymateb i'r honiadau dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Wrecsam fod gan y sir ddarpariaeth ddigonol ar gyfer addysg cyfrwng cymraeg o fewn y sir.

"Mae rhai rhieni wedi methu cael lle yn yr ysgol o'u dewis cyntaf, ond mae lle arall wedi cael ei gynnig iddynt mewn ysgol cyfrwng Cymraeg arall," meddai'r llefarydd.

"Yr un criteria sy'n cael ei defnyddio ar gyfer rheini sy'n dewis addysg cyfrwng Saesneg."

Bu'r Gweinidog Addysg Huw Lewis hefyd yn rhoi tystiolaeth gerbron y pwyllgor.

Dywedodd fod yna broblemau wedi bod gyda rhai o'r cynlluniau gafodd eu cyflwyno gan yr awdurdodau lleol.

"Rydym wedi anfon 17 o'r 22 cynllun yn ôl i'r cynghorau."

Ond ychwanegodd ei bod yn rhy gynnar eto, i roi barn ar ba mor llwyddiannus yw'r drefn newydd.

Yn 2010/11 roedd 74,277 o ddisgyblion yn derbyn eu haddysg mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg, sy'n 15.9% o holl ddisgyblion Cymru.

Erbyn 2013/14 roedd y ffigwr yn 72,868 neu 15.7%.

Mae Ms Huws o'r farn fod hyn yn dangos nad yw'r cynghorau yn gwneud digon.

"Awgryma'r dystiolaeth uchod na fu twf mewn addysg Gymraeg dros y blynyddoedd diwethaf.

"Mae hyn er gwaethaf y galw cynyddol a welwyd am addysg Gymraeg.

"O ystyried y collir rhai miloedd o siaradwyr Cymraeg bob blwyddyn am resymau amrywiol, ni chredwn y gwelir cynnydd yn y nifer o siaradwyr Cymraeg heb gyfundrefn addysg sy'n cynhyrchu mwy o siaradwyr Cymraeg newydd."

Straeon perthnasol