Ymosodiadau anweddus yn Abertawe

Heddlu

Mae'r heddlu yn Abertawe wedi derbyn pedwar adroddiad am ymosodiadau anweddus yn y ddinas.

Cafodd achos arall ei gofnodi yn dilyn apêl ddydd Mercher, ar ôl i ddynes ddioddef ymosodiad ddwywaith mewn tridiau.

Dywed yr heddlu fod y dyn maen nhw am ei holi wedi cyffwrdd merched yn amhriodol yn ystod prynhawn 4 a 7 Gorffennaf.

Mae'r dyn yn cael ei ddisgrifio fel glaslanc o dras Asiaidd, ac yn 5 troedfedd 5 modfedd o daldra.