Rhoi croeso'n ôl i Groesoswallt?

Roedd Croesoswallt yn rhan o Gymru hyd at y Deddfau Uno yn 1536, ond bellach tref yn Lloegr ydi hi.

Er hynny, mae trigolion Croesoswallt, fel pob cymuned arall yn ardal y Steddfod, wedi bod wrthi ers misoedd lawer yn codi arian ar gyfer cynnal yr Ŵyl.

Pam felly fod pobl y dref yn teimlo gymaint o gysylltiad â Chymry a'i diwylliant, â hwythau'n byw dair milltir i'r dwyrain o'r ffin? Mae hi'n hen gwestiwn - a ddylai'r dref fod yn rhan o Gymru?

Image caption Mae gan y parc yma yng nghanol Croesoswallt enw Cymraeg - Cae Glas Park!

Y sefyllfa yn yr 1970au

Ar sianel y Llyfrgell Genedlaethol ar YouTube, mae hen fideo diddorol o archif ITV Cymru o 1972, lle aeth criw teledu o amgylch y dref gan ofyn i'r trigolion yr union gwestiwn yna.

Cymysg yw'r ymateb ar y cyfan:

Mae'r hen ddynes yn teimlo fel Cymraes gan mai Cymry yw ei hwyrion, ac yn falch o hynny. Yn ddiddorol, doedd hi ddim yn sylweddoli mai yn Lloegr oedd hi'n byw... Beth mae hynny'n ei ddweud am Gymreictod y dref yn ystod yr 1970au? A fyddai rhywun yn gwneud yr un camgymeriad heddiw?

Image copyright Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Image caption Dwy Saesnes a fyddai'n hapus i ddysgu Cymraeg pe byddai'r ffin yn symud

Saeson yw'r ddwy ferch ysgol sy'n cael eu holi, o'r pentref cyfagos Trefonen (enw Cymreig iawn am bentref yn Lloegr). Ond byddan nhw fwy na pharod i ddysgu Cymraeg ac i gymysgu â'r "Wales people" pe bai Croesoswallt unwaith eto yn rhan o Gymru.

Nid yw'r gŵr bonheddig nesaf i gael ei holi yn ystyried ei hun yn Gymro gan nad yw'n medru'r Gymraeg, ac nid yw'n credu fod angen i'r ffin symud. Ond ni fyddai yn gwrthwynebu. Felly hefyd y ddwy ferch ifanc sydd yn cael eu holi nesaf, sy'n ymddangos yn eithaf niwtral, neu hyd yn oed yn ddihid am yr holl beth.

Mae'r gŵr olaf yn y fideo yn angerddol iawn dros Gymreictod y dref, ac er ei fod yn rhan o Loegr yn swyddogol, mae'n dweud ei fod yn dref Gymreig iawn. Byddai trigolion y dref yn "gwerthfawrogi" petai Cymru yn hawlio'r dref unwaith eto, gan ei fod wedi ei "ddwyn" ganddyn nhw ganrifoedd yn ôl.

Angen mwy o gefnogaeth

Heddiw, mae'r dref fel rhyw 'oasis' o Gymreictod yn Lloegr; mae iddi gymuned gref o Gymry, ac yn meddu ar siop Gymraeg, sef Siop Cwlwm.

Mae Lowri Roberts, sydd yn berchen y siop gyda'i mam Linda, o'r farn fod Croesoswallt yn Lloegr ar bapur yn unig.

Image copyright Lowri Roberts
Image caption Lowri a Linda Roberts sydd yn cadw'r unig siop Gymraeg yn Lloegr

"Mae naws a diwylliant y dref yn Gymreig a chlywir y Gymraeg yn aml wrth gerdded trwy'r dref. Mae yna gysylltiadau agos wedi bod â Chymru, a Sir Drefaldwyn yn benodol, ers canrifoedd, ac mae hynny'n parhau hyd heddiw."

Tydi hi ddim yn teimlo fod angen i'r dref ddod yn rhan o Gymru yn ffurfiol, fodd bynnag. Yn un peth, byddai eu siop yn colli'r teitl unigryw o fod yr unig siop Gymraeg yn Lloegr! Ond byddai hi'n gwerthfawrogi mwy o gefnogaeth gyhoeddus, meddai, fel gan Gomisiynydd y Gymraeg. Nid yw'r Gymraeg yn derbyn unrhyw gymorth ar hyn o bryd, gan nad yw'n rhan o'r wlad.

A heddiw...?

Felly sut ymateb fyddai i gyfweliad tebyg y dyddiau yma? Mae'r cerddor a'r gwneuthurwr ffilmiau Barry Edwards wedi creu fideo i weld ei hun beth yw'r ymateb i'r un cwestiwn, 43 o flynyddoedd yn ddiweddarach.

Mae Barry wedi byw yng Nghroesoswallt ers ei fod yn 11 oed, ac yn araf bach wedi syrthio mewn cariad â'r lle.

Image copyright Barry Edwards
Image caption Mae Barry Edwards yn mwynhau ochr greadigol Croesoswallt, sy'n cael ei dylanwadu gan Gymreictod y dref

"Dwi wir yn teimlo fel 'taswn i'n byw mewn tref yng Nghymru. Mae ei threftadaeth a'i llên gwerin yn cyfrannu at yr ymdeimlad cyffredinol. Daw hyn o'r ffaith mod i'n clywed pobl yn siarad Cymraeg o'm cwmpas ac â chynifer o ffrindiau sydd yn siarad Cymraeg fel mamiaith, ac wrth gwrs, gan ein bod ni dafliad carreg o dirwedd Cymru."

Er mai cymysg oedd ymateb y trigolion ar ei fideo yntau hefyd, mae Barry yn dweud ei fod o'n credu bod y rhan fwyaf o bobl yn ystyried y dre' yn rhan o Gymru.

"Beth bynnag sy'n digwydd yn nyfodol Croesoswallt, dwi'n meddwl y bydd cenedlaethau i ddod yn ddigon hapus i ddweud 'dwi'n byw yng Nghroesoswallt, Cymru'."

Mwy o straeon a newyddion o'r Eisteddfod Genedlaethol