Lokomotiva Zagreb 2-2 Airbus

Image copyright PA
Image caption Andy Preece

Er iddynt sicrhau gem gyfartal yn Zagreb mae Brychdyn allan o Gynghrair Europa, ar ôl colli 5-2 ar ôl dau gymal.

Fe wnaeth tîm Andy Preece golli 3-1 i'r tîm o Croatia yn y cymal cyntaf a gafodd ei chwarae ym Mangor.

Chris Budrys sgoriodd gyntaf i dîm Brychdyn, ond yna fe aeth y tîm cartref ar y blaen gyda goliau gan Ivan Fiolic a Damir Sovsic.

Sgoriodd Andy Jones ddwy funud yn ddiweddarach ond doedd hynny ddim yn ddigon i achub y canlyniad.