Saith Diwrnod

Tesco sign Image copyright PA
Image caption Lefi Gruffudd fu'n cael profiad dwyieithog ar un o beiriannau talu Tesco

Catrin Beard yn trafod y pynciau sydd wedi denu ei sylw yn ei hadolygiad wythnosol o'r wasg Gymraeg a'r blogiau.

Does gan Lefi Gruffudd fawr i'w ddweud wrth gwmni Tesco ar y gorau, yn enwedig yr un bach sydd wedi agor yn nhref Aberystwyth.

Un rheswm dros gasáu'r lle yw ei ddiffyg diddordeb ac amynedd mewn talu gyda pheiriant hunanwasanaeth.

Mae yna bobl i helpu cwsmeriaid i'w defnyddio, er nad oes dim synnwyr yn ôl Lefi cael rhywun i'ch cynorthwyo ar beiriant hunanwasanaeth.

Ond fe ildiodd i'r pwysau, pwyso'r botwm Cymraeg ar y peiriant, ac yna cael profiad dwyieithog go iawn, wrth roi gwersi Cymraeg i'r ferch oedd yn ei helpu, a hithau'n methu amgyffred fod rhywun wedi dewis y fath opsiwn. Holi mae Lefi a oes syndod fod Tesco mewn cymaint o drafferthion.

'Nostaljia'r nawdegau'

Image copyright Getty Images
Image caption Mae Guto Dafydd yn dal i deimlo dylanwad y 90au a'r Gallaghers

Wn i ddim ai yn Tesco y'i prynodd, ond yn ddiweddar cafodd y prifardd Guto Dafydd ei hun yn bwyta Pop Tart am y tro cyntaf erioed, fel y dywed wrthym ar Cymru Fyw.

Y rheswm am hyn oedd ei fod wedi'i sgubo ar y don fawr bresennol o nostaljia am y 90au.

Na, wyddwn i ddim fod yna un chwaith, ond mae'n amhosib dianc mae'n debyg rhag degawd y Super Furry Animals; 'TFI Friday'; trowsusau blodeuog; Blur a'r Gallaghers.

Ond edrych ar gyflwr y byd llenyddol mae erthygl Guto, a'i farn yw bod gan feiddgarwch llenyddol y 90au rywbeth i'w ddysgu i ni heddiw, gyda'i deithiau barddol, ffuglen ôl-fodern, a theorïau avant garde, i gyd yn erbyn cefndir o gyffro gwleidyddol, gyda Chymru'n pleidleisio dros ddatganoli.

Mae'n cyfnod ni'n fwy statig, ac mae'n debyg fod llenyddiaeth yn adlewyrchu'r ffaith honno. Galw wna Guto ar lenyddiaeth Gymraeg i wisgo'i roller-blades a'i thracwisg liwgar, a sglefrio'n ôl i ddisgo'r nawdegau.

Aiff Lyn Ebenezer â ni'n ôl ychydig ymhellach yn y Cymro wrth gofio dangosiad cyntaf y ffilm Psycho, ac yntau a chriw o'r pentre'n mentro i'r Coliseum yn Aberystwyth i'w gweld - dyma'r peth agosaf erioed i'r ffilm arswyd berffaith ym marn Lyn.

Cofiwch, nid cynnwys y ffilm sy'n ei ddychryn bellach, ond yn hytrach, sylweddoli bod 55 o flynyddoedd wedi mynd ers iddo ei gweld am y tro cyntaf - dyna i chi beth yw gwir arswyd meddai.

Ac o sôn am gefn gwlad Cymru ganol y ganrif ddiwethaf, yn ôl Wynne Melville Jones, fu'n sgwrsio â Golwg ac yntau ar ei wyliau mewn pentref bach diarffordd yng ngwlad Groeg, mae bod yn y wlad honno fel mynd yn ôl i gefn gwlad Tregaron drigain mlynedd yn ôl, gyda phwyslais ar werthoedd teuluol a phobl nad ydyn nhw hanner mor faterol ag ydyn ni yng Nghymru heddiw.

A pharhau mae trafferthion y Groegwyr.

Mae Golwg wedi bod yn sgwrsio gyda Despina Lloyd Goula, gwraig ifanc o Wynedd sydd â gwreiddiau yn y wlad, ac sydd wedi treulio cyfnodau helaeth yno dros y chwe blynedd diwethaf.

Mae tystiolaeth llygad-dyst cymaint yn fwy gwerthfawr nag adroddiadau moel y newyddion.

Dwi wedi gweld pobol yn cael eu bychanu, meddai, yn cael eu lluchio allan o'u tai, pensiynwyr sydd wedi gweithio gydol eu hoes a heb bensiwn rŵan … rydan ni i fod i edrych ar ôl pobl mewn oed, fedrwn ni ddim eu gadael nhw ar y strydoedd yn chwilio efo'u ffyn mewn biniau am fwyd!

Mae hi'n gwrthod y stereoteipio sy'n honni bod y Groegiaid yn ddiog a'u bod wedi gwario'r pres i gyd.

Na! dywed, gyda chri o'r galon - does dim un o fy ffrindiau i wedi benthyg arian, does arnyn nhw ddim byd i neb - dydyn nhw ddim wedi cael cyfle i ddechrau eu bywydau! Y llywodraeth a'r banciau mawr sydd wedi gwneud y camgymeriadau - pam fod y bobl gyffredin yn gorfod dioddef oherwydd cyfalafiaeth?