Morgannwg yn colli'n drwm i Sussex yn T20 Blast

Luke Wright Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Roedd Luke Wright yn feistr ar fowlwyr Morgannwg

Bydd rhaid i Forgannwg ennill y ddwy gêm grŵp olaf er mwyn cael unrhyw gyfle i gyrraedd rownd yr wyth olaf yn y T20 Blast ar ôl colli o wyth wiced i Sussex nos Wener.

Enillodd Sussex gyda 31 pêl o'r 20 pelawd yn weddill, wrth gyrraedd y nod o 165 yn rhwydd gan golli dim ond dwy wiced.

Batio Luke Wright (92 heb fod allan) a Chris Nash (50) rhoddodd y sylfaen i'r tîm cartref, sydd ar frig y grŵp.

Sgoriodd Ben Wright sgôr uchaf ei yrfa drwy daro 63 rhediad oddi ar 46 pêl, ond ni lwyddodd yr un o fatwyr eraill Morgannwg fynd heibio 20 wrth i'w batiad o 164 am 7 fethu â thanio.

Gemau yn erbyn Caint yn Tunbridge Wells (17 Gorffennaf) a Sir Gaerloyw yng Nghaerdydd (24 Gorffennaf) sydd yn weddill.