Teithwyr yn cyrraedd nôl o Tunisia

A Tunisian security member stands next to a swimming pool at the resort town of Sousse 26 June 2015 Image copyright Getty Images
Image caption Mae'r Ysgrifennydd Tramor wedi annog Prydeinwyr i ddychwelyd adref o Tunisia

Mae'r teithwyr cyntaf o Tunisia ers i'r llywodraeth gyhoeddi rhybudd diogelwch wedi cyrraedd Caerdydd dydd Sul.

Fe wnaeth awyren Thomas Cook o faes awyr Monastir gyrraedd Caerdydd am 04:00.

Mae Tunisia wedi cyhoeddi stad o argyfwng ar ôl i 38 o bobl - 30 o Brydain - gael eu lladd gan derfysgwr ar draeth yn Sousse ar 26 Mehefin.

Ddydd Iau fe wnaeth Ysgrifennydd Tramor Prydain Philip Hammond annog y 3,000 o Brydeinwyr ar wyliau yn Tunisia i ddychwelyd adre "gan fod ymosodiad terfysgol arall yn hynod debygol."

Image copyright Cardiff airport
Image caption Mae Thomas Cook wedi rhoi'r gorau i hedfan i Tunisia o Gaerdydd tan 31 Hydref.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.