Agor cynhadledd astudiaethau Celtaidd

Caeredin

Bydd academyddion o 25 o wledydd, yn cynnwys Cymru, yn cyfarfod yng Nghaeredin ddydd Llun mewn cynhadledd Cyngres Astudiaethau Celtaidd.

Dyma'r gynhadledd ryngwladol fwyaf o'i bath ym maes astudiaethau Celtaidd, ac fe fydd 130 o sefydliadau gwahanol yn cael eu cynrychioli yn yr Alban rhwng 13 ac 17 Gorffennaf.

Caiff y gyngres ei chynnal bob pedair blynedd, ac mae wedi tyfu'n sylweddol yn ei maint ers y cyfarfod cyntaf yn Nulyn yn 1959.

Dywed trefnwyr y gyngres ei bod yn cynnig cyfle gwych i ymchwiliwyr ac academyddion ym maes astudiaethau Celtaidd i gyfarfod a thrafod gwahanol elfennau o'u gwaith.

Image copyright Prifysgol Caeredin

Pynciau trafod

Ymysg y pynciau trafod yn y gynhadledd fydd agweddau ar ieithyddiaeth, llenyddiaeth, hanes, archaeoleg a hanes celf - ac fe fydd nifer o ddarlithwyr o brifysgolion Cymru yn trafod eu gwaith, yn cynnwys Dr Angharad Price ac Ifan Morgan Jones o Brifysgol Bangor, Iwan Wyn Rees a Sara Orwig o Brifysgol Caerdydd, a Dafydd Johnston o Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru yn Aberystwyth.

Mae'r digwyddiad wedi dod i Gymru ar sawl achlysur yn y gorffenol, gan ymweld â Chaerdydd yn 1963, Abertawe yn 1987 ac Aberystwyth yn 2003.

Bydd pedair gradd er anrhydedd yn cael eu cyflwyno'r wythnos hon, a hynny i academyddion aeth i'r Alban yn ystod y 1960au a'r 70au er mwyn cadw cofnod ar dafodieithoedd sydd bellach bron a bod wedi diflannu.

Y pedwar i gael eu hanrhydeddu fydd yr Athro Emeritws Nancy Dorian o Goleg Bryn Mawr, Pennsylvania, Máirtín Ó Murchú, Uwch Athro Emeritws o Ysgol Astudiaethau Celtaidd yn y Sefydliad Astudiaethau Uwch yn Nulyn, yr Athro Emeritws Dr Elmar Ternes o Brifysgol Hamburg, a Seosamh Watson, Athro Emeritws o Goleg Prifysgol Dulyn.