Carcharu dynes am yrru dros bobl yn fwriadol yn ei char

Amanda Myles Image copyright Heddlu De Cymru
Image caption Clywodd Llys y Goron Abertawe bod Myles wedi defnyddio ei char fel arf

Mae dynes wnaeth yrru ei char ar bafin yn fwriadol er mwyn taro dau o bobl yn dilyn ffrae wedi ei charcharu am chwe blynedd.

Clywodd Llys y Goron Abertawe bod Amanda Myles, 34 o Abertawe, wedi defnyddio ei char Peugeot 406 fel arf "ofnadwy".

Digwyddodd ar 25 Mehefin ar ôl i Myles gyhuddo Stacey Stokes a Jamie Huxtable o ddwyn beic ei phlentyn.

Yn ddiweddarach fe welodd hi'r ddau yn cerdded ar hyd Heol Mansel, Bôn-y-maen, ac fe yrrodd ei char ar y pafin a'u taro o'r tu ôl.

Cafodd Ms Stokes ei chario 50m ar y car cyn cael ei thaflu i'r ddaear a'i tharo yn anymwybodol.

Fe gafodd Mr Huxtable ei gleisio'n ddrwg yn ystod y digwyddiad.

Cafwyd Myles yn euog o geisio achosi niwed corfforol difrifol a gyrru yn beryglus - cyhuddiadau yr oedd hi wedi eu gwadu.

Yn ogystal â'r ddedfryd o garchar, cafodd Myles ei gwahardd rhag gyrru am ddwy flynedd.

Straeon perthnasol