Credydau: 'Harman yn anghywir,' medd Carwyn Jones

Carwyn Jones
Image caption Byddai mesurau'r Canghellor yn targedu pobl ifanc tlawd, yn ôl Carwyn Jones

Mae Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones wedi dweud ei fod yn anghytuno ag Arweinydd Dros Dro y Blaid Lafur yn San Steffan wedi iddi gefnogi rhai o newidiadau'r Canghellor i fudd-daliadau.

Mae Harriet Harman wedi wynebu beirniadaeth o fewn ei phlaid am gefnogi cynlluniau George Osborne i osod uchafswm ar daliadau budd-dal yn ogystal â pheidio talu credydau treth i'r trydydd plentyn yn y teulu.

Ond fe fyddai'r mesurau yn targedu pobl ifanc tlawd, meddai Carwyn Jones yn ei gynhadledd newyddion fore Llun.

Mae ffynhonnell yn agos at Ms Harman wedi dweud ei bod hi'n mynegi "safbwynt" ac nad oedd hyn yn bolisi terfynol.

Dywedodd Mr Jones: "Rwy'n deall y safbwynt sy'n dweud na ddylen ni gynrychioli'r rhai ar fudd-daliadau yn unig, ond mae 'na ben draw ar yr hyn y gallwn ni gytuno ag e.

"Ar hyn o bryd mae 'na lawer o dargedu gan y llywodraeth hon, pobol ifanc a rhai mewn gwaith...

"Felly 'dwi ddim yn cytuno ar gyfyngu'r nifer o blant y gall y rhai mewn gwaith wneud cais amdanyn nhw."