Côt newydd o baent

Golygfa o gynhyrchiad gwreiddiol 'Melltith ar y Nyth' yn 1975
Image caption Golygfa o gynhyrchiad gwreiddiol 'Melltith ar y Nyth' yn 1975

Bydd caneuon un o operâu roc eiconig yr iaith Gymraeg i'w clywed ar eu newydd wedd ar benwythnos 18-19 Gorffennaf yng Nghastell Caernarfon.

Mae hi'n 40 mlynedd ers i Hywel Gwynfryn ac Endaf Emlyn gyfansoddi 'Melltith ar y Nyth'. Bydd nifer o artistiaid cyfoes yn perfformio'r caneuon yn ystod Gŵyl Arall fydd yn cael ei chynnal yn nhre'r Cofi dros y penwythnos.

Mae Hywel wedi bod yn rhannu ei atgofion am y cynhyrchiad gwreiddiol gyda Cymru Fyw:

Yr alwad

Fe ofynodd rhywun i Irving Berlin, y cyfansoddwr Americanaidd na fu ei debyg am 'sgwennu caneuon cofiadwy. "What comes first Mr Berlin, the words or the music? A'i ateb? "The phone call!"

Ac felly roedd hi efo fi, 40 mlynedd union yn ôl. Roeddwn i ar ben ysgol ar y pryd yn peintio'r tŷ pan ddaeth yr alwad.

"Hia Hyw"

"Helo Rhydd"

Rhydd oedd Rhydderch Jones, cynhyrchydd efo adran rhaglenni ysgafn ar y pryd. Gwyneb fel Dylan Thomas, a sigaret yn wastadol yn ei geg. Ffrind mawr i Ryan Davies.

"Gwranda Hyw. Dw i 'di cal syniad. 'Dw isho i chdi ac Endaf Emlyn sgwennu opera roc am y Mabinogion. OK. Gawn ni sgwrs."

A dyna hi. Yr alwad ffôn. Nôl â fi i ben yr ysgol a dechrau meddwl, a pheintio.

Mae'n anodd cofio erbyn hyn ai Endaf neu fi feddyliodd am y syniad o ddefnyddio stori Branwen a Matholwch, Bendigeidfran ac Efnisien.

Ond pwy bynnag gafodd y syniad gwreiddiol, roeddan ni'n dau yn gytun ein bod ni eisiau rhoi côt o baent newydd i'r hen stori.

Trôns tu allan i'w drowsus

Branwen, yn flondan, rhywiol, Efnisien yn gangster efo gwn yn saethu pawb a phopeth gan gynnwys ceffyl neu ddau, a Bendigeidfran fel Siwpyrman - yn anorchfygol, yn ei grys T efo 'S' ar y tu blaen am SIWPYRBENDI - a'i drôns tu allan i'w drowsus tyn, wrth gwrs.

Eisteddodd Rhydderch tu ôl i'w ddesg a'i geg ar agor yn rhythu arnom mewn anghrediniaeth llwyr tra'n gwrando arnon ni'n dau yn esbonio sut yr oeddem yn bwriadu moderneiddio'r stori.

Fyddai hi ddim yn weddus i mi ddyfynu yr union eiriau a lefarodd Rhydderch ar ôl i ni orffen ein cyflwyniad (er mai dim ond dau air ddudodd o!), cyn darnio'n syniad ni yn racs a'n rhybuddio ni i gadw ar y llwybr cul gwreiddiol, traddodiadol, Mabinogol.

"Dim blondan, Siwpyrbendi, na gangsters!"

Image caption Dafydd Hywel yn canu Cân Efnisien

Cân Efnisien

Ac felly y bu. Ar ôl darllen y stori wreddiol a chytuno ar themâu, fe es i ati i sgwennu'r geiriau a'u hanfon nhw at Endaf a fynta' wedyn yn troi'r geiriau yn ganeuon efo'i alawon cofiadwy. Yn bersonol 'dwi'n teimlo mae'r gân orau ydi Cân Efnisien.

"Fi yw Efnisien. Fe gewch chi wybod pam

Fe'n rhwygwyd i un noson ddu, mewn gwaed o groth fy Mam

Fi yw Efnisien y poen tu mewn i'r pen

Yr hunlle yn lle breuddwyd, y pry tu mewn i'r pren"... ac yn y blaen.

Ond wyddoch chi be'. Fedrwn i yn fy myw a meddwl am linell i gloi y gân, felly fe awgrymais i Endaf y gallai'r gân orffen yn hongian yn yr awyr fel petae gyda Efnisien yn gweiddi "Fi yw Efnisien".

Ymhen ychydig ddyddiau anfonodd Endaf y gân yn ôl er mwyn i mi gael gwrando arni. A bellach roedd 'na linell glo i'r gân. "Fi yw Efnisien - Roedd rhaid i rhywun fod." Dyna oedd ei dynged.

Diolch i Nici Beech a Dyl Mei a'r cantorion am gyflwyno'r sioe i genhedlaeth newydd. Mae Endaf a finna' wrth ein boddau fod y sioe ddaru ni'n dau ei sgwennu yn cael côt arall o baent fresh, ddeugain mlynedd yn ddiweddarach.

Mae Hywel Gwynfryn yn trafod Melltith ar y Nyth ar raglen Dei Tomos, Nos Sul, 12 Gorffennaf, BBC Radio Cymru

Image caption Branwen a Matholwch (Gillian Elisa a Dewi Pws)