Morgannwg yn wynebu her yn erbyn Essex

Nick Browne Image copyright Getty Images
Image caption Sgoriodd Nick Browne 129 i Essex ddydd Mercher

Bydd gan Forgannwg dasg enfawr o'u blaenau os ydyn nhw am osgoi colled cyntaf y tymor hwn ar ddiwrnod olaf eu gem yn erbyn Essex ddydd Mercher.

Ar ôl i'r tîm cartref osod targed o 462 i Forgannwg yn Chelmsford, fe wnaeth yr ymwelwyr gyrraedd 110 am un wiced nos Fawrth.

Ond gyda'r llain yn cynnig mwy i'r bowlwyr, bydd Morgannwg angen perfformiad gwych i ennill.

Nick Browne a Liam Dawson oedd yn bennaf gyfrifol am sgôr mawr Essex, gyda phartneriaeth o 237 am y wiced gyntaf.

Sgoriodd Browne 129 a Dawson 99 wrth i Essex gyrraedd 344 am 4 wiced mewn 85 pelawd.

Yn dechrau batiad Morgannwg, roedd Jacques Rudolph a Will Bragg yn edrych yn ddigon cyfforddus yn erbyn bowlwyr cyflym Essex, ond roedd bowlio Dawson yn fwy o her.

Cafodd Bragg ei ddal gan Ryan ten Doeschate oddi ar fowlio Dawson am 22.

Bydd Rudolph, 45 heb fod allan, a'r batiwr ifanc Aneurin Donald, 42 heb fod allan, yn parhau fore Mercher.