Sianelu'r Gymraeg

Ysgol Gynradd Rhydypenau Image copyright MARTIN PHILLIPS
Image caption Ysgol Gynradd Rhydypenau

"Mae cael eich trochi mewn iaith yn allweddol os ydych am ddysgu'r iaith hynny a bod yn ddwyieithog."

Geiriau fyddech chi'n disgwyl eu clywed gan adran Addysg Llywodraeth Cymru efallai, ond geiriau cynorthwydd dosbarth un o ysgolion cynradd Chaerdydd yw rhain.

Mae Lieve Hibler-Vandenbulcke yn siarad nifer o ieithoedd ac wedi dysgu rhywfaint o Gymraeg. Mae hi wedi dechrau prosiect arbrofol yn Ysgol Gynradd Rhydypennau i geisio gwella'r ffordd mae'r Gymraeg yn cael ei chyflwyno i blant di-Gymraeg, aml-gefndir yn yr ysgol.

Arf pennaf yr arbrawf? Rhaglenni S4C.

Mae Lieve yn dweud rhagor wrth Cymru Fyw am brosiect uchelgeisiol y Clwb Cymraeg:

Image caption Lieve Hibler-Vandenbulcke

Trochi

Yn Ysgol Rhydypenau rydyn ni'n arbennig o dda wrth defnyddio Cymraeg yn achlysurol o gwmpas yr ysgol. Mae'r athrawon yn rhoi llawer o ymdrech i ddysgu Cymraeg fel ail iaith, gan ddefnyddio'r amrywiaeth o adnoddau dysgu gwych sydd ar gael.

Ond er gwaethaf hyn, ar y gorau, dyw'r plant ddim yn dysgu llawer mwy na gwybodaeth elfennol o'r iaith.

Fyddai mwyafrif y plant ddim yn hyderus yn siarad gydag ymwelydd Cymraeg ei iaith gan fod acen, goslef a thafodiaith yn eu taflu'n llwyr weithiau. Ond roedd y plant wedi arfer ac yn gyfforddus gydag acen eu hathrawon.

I oresgyn hyn, ges i'r syniad syml o drochi'r plant mewn cynifer o wahanol siaradwyr ac acenion Cymraeg â phosib.

Cododd y syniad o'm profiadau personol i o ddysgu Ffrangeg yn blentyn, sef i ddefnyddio'r cyfoeth o rhaglenni S4C sydd ar gael ar wasanaeth Clic fel sail dysgu'r iaith yn ein Clwb Cymraeg.

Manteision hyn yw fod y plant yn cael clywed amrywiaeth o acenion, gwahanol ddefnydd o eiriau a dysgu sut mae strwythuro, creu brawddegau a sgwrsio'n y gystrawen gywir.

Amrywiaeth o raglenni

Plant o flwyddyn 3 a 4 gymrodd rhan yn y prosiect eleni. Y cam cyntaf oedd i wahodd rhieni i wylio cyflwyniad am fy syniadau. Roedd hi'n hanfodol fod y plant yn cymryd rhan yn wirfoddol, ond gyda chefnogaeth llawn eu rhieni.

Mae ymroddiad y rhieni'n hollbwysig gan fod rhaid iddyn nhw sicrhau bod eu plant yn gwylio'r rhaglenni tu allan i ddrysau'r ysgol, a'u gwylio'n rheolaidd.

Wnes i ddewis amrywiaeth o raglenni, un rhaglen y noson, pum noson yr wythnos gyda gwaith cartref wedi'i gynllunio o gwmpas cynnwys y rhaglenni.

Roedd mwyafrif y rhaglenni ar y cychwyn yn raglenni Cyw, megis 'Abadas', 'Guto Cwningen', 'Tref a Tryst', ond erbyn diwedd y flwyddyn, roedd y plant hefyd yn gwylio rhannau o raglenni Eisteddfod yr Urdd a 'Cariad@Iaith'.

Image copyright S4C
Image caption "Erbyn diwedd y flwyddyn, roedd y plant hefyd yn gwylio rhannau o raglenni Eisteddfod yr Urdd a Cariad@Iaith"

Magu hyder

Dim ond chwech teulu gymrodd ran yn y prosiect, ond maen nhw yn cynrychioli croes-doriad eithaf eang.

Mae un o deulu di-Gymraeg, gwyn, ond mae'r gweddill o gefndiroedd Indiaidd, Pacistan, Sri Lanka a Nigeria. Mae hyn wedi bod yn un peth oedd yn ddifyr am y prosiect, sef bod y teuluoedd wnaeth gymryd rhan o gefndiroedd lle roedd siarad neu o leiaf clywed ail iaith yn gyffredin.

Mae'r plant wedi mwynhau gwylio'r rhaglenni ac wedi magu hoffder am raglenni unigol. Maen nhw wedi cyfarwyddo â chwilio am raglenni Cymraeg ar y we a bellach yn mwynhau teledu Cymraeg.

Mae eu hagwedd tuag at y Gymraeg, a'u gallu i ddeall a siarad yr iaith wedi ei fesur yn gyson drwy weithgareddau oedd yn cael eu cwblhau adref neu yn y Clwb Cymraeg.

Roedd y plant yn cael eu hannog i ail-ddweud unrhyw straeon yn Saesneg.

Hefyd wnaethon ni gynnal cystadleuaeth fideo lle roedd yn rhaid iddyn nhw ddisgrifio'u hunain a'u hoff rhaglenni yn Gymraeg a chreu cyflwyniad ar Powerpoint yn cymharu dwy raglen ac pha un fyddai orau iddyn nhw wylio.

Image copyright MARTIN PHILLIPS

Ymlaen fo'r nod

Y peth pwysicaf yw fod y plant wedi magu agwedd bositif iawn at ddysgu Cymraeg ac mae eu hyder wedi datblygu llawer hefyd.

Does dim ofn ganddyn nhw ddefnyddio'r hyn maen nhw'n ei wybod a maen nhw wedi sylweddoli fod ymarfer yn allweddol i lwyddiant.

Erbyn hyn, maen nhw wedi cyrraedd y pwynt lle maen nhw'n dda am adnabod geiriau ac yn dechrau magu hyder mewn creu a strwythuro brawddegau.

Y cam nesaf flwyddyn nesaf fydd adeiladu ar yr hyn sydd wedi ei gyflawni eleni a symud ymlaen i ddatblygu'r gystrawen a chreu sgryrsiau'n naturiol.

Fy ngobaith erbyn diwedd y flwyddyn nesaf yw y bydd y plant yn medru gwrando ar fwletinau newyddion a deall a thrafod yr hyn sydd yn cael ei gyfleu. Yn y pendraw, fy ngobaith yw y bydd y plant yn siaradwyr hyderus erbyn Blwyddyn 6.

Os ydych chi'n sôn am gael addysg gynradd Gymraeg i bob plentyn yng Nghymru, mae'n bosib fod y prosiect hwn yn cynnig ffordd ymarferol o gyflawni hynny mewn rhyw ffurf.