Dyn wedi marw mewn gwrthdrawiad yng Ngheredigion

B4337 Image copyright Google
Image caption Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar y B4337 ger Cilcennin

Mae dyn 50 oed wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ar y B4337 yng Ngheredigion.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad rhwng dau gerbyd am tua 17:45 brynhawn ddydd Mawrth ger Cilcennin, Llanbedr Pont Steffan.

Roedd y dyn fu farw yn gyrru VW Golf coch, ac fe gafodd dyn 21 oed oedd yn y cerbyd arall - Honda Civic coch - ei gludo i Ysbyty Bronglais gydag anafiadau difrifol. Mae bellach mewn cyflwr sefydlog.

Bu'r ffordd ar gau am gyfnod wrth i'r heddlu ymchwilio i achos y gwrthdrawiad.

Mae Heddlu Dyfed Powys yn apelio i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw ar 101.