Carchar i 'filwr' o Gaerdydd am dwyll £250,000

Tosin Femi Olasemo Image copyright Heddlu De Cymru
Image caption Fe wnaeth Tosin Femi Olasemo gyfaddef twyll

Mae dyn wnaeth honni ei fod yn filwr o'r Unol Daleithiau er mwyn twyllo dwy ddynes i roi dros £250,000 iddo wedi ei garcharu.

Clywodd Llys y Goron Caerdydd bod Tosin Femi Olasemo, 37 oed o Gaerdydd, wedi defnyddio llun o filwr ar wefan match.com.

Dywedodd wrth y ddwy ddynes ei fod yn Afghanistan, a'i fod angen arian i dalu am ymweliadau gyda nhw.

Plediodd yn euog i dwyll a chafodd ei garcharu am bedair blynedd a hanner.

Dywedodd yr heddlu ei fod wedi dangos dim trugaredd am yr hyn oedd wedi ei wneud.

Ychwanegodd y Ditectif Sarsiant Jamie Holcombe o Heddlu De Cymru bod yr achos yn esiampl o sut all rywun "eistedd o flaen cyfrifiadur a dinistrio bywyd rhywun arall".

Dywedodd: "Fe wnaeth Olasemo gymryd mantais o wendidau'r dioddefwyr a ni ddangosodd unrhyw drugaredd am eu colledion."