Colled cyntaf i Forgannwg yn erbyn Essex

Jesse Ryder Image copyright Getty Images
Image caption Mae Jesse Ryder wedi cymryd 33 o wicedi i Essex y tymor hwn

Fe wnaeth Jesse Ryder gymryd 10 wiced i Essex wrth iddyn nhw guro Morgannwg o 248 o rediadau ym Mhencampwriaeth y Siroedd.

Roedd Essex wedi gosod targed o 462 i Forgannwg, oedd yn dechrau'r diwrnod olaf yn Chelmsford ar 110 am 1.

Ond fe gollodd yr ymwelwyr saith wiced cyn cinio, gan gynnwys wiced Aneurin Donald am 67.

Fe gymerodd Ryder 4 wiced am 53 o rediadau, ac fe gymerodd David Masters 3 am 37 wrth i Forgannwg gael eu bowlio allan am 213.

Daeth hynny ar ôl i Ryder gymryd 6 am 47 yn y batiad cyntaf.

Collodd Jacques Rudolph ei wiced yn yr ail belawd, y cyntaf o nifer o wicedi yn y bore.

Er hynny, llwyddodd Donald, 18 oed, i gyrraedd 50.

Collodd ei wiced am 67 ac yna Graham Wagg oedd yr olaf i golli ei wiced, am 28 o rediadau.

Mae Morgannwg yn parhau yn drydydd yn yr Ail Adran, 17 pwynt y tu ôl i Surrey.