'Bygythiad i S4C oherwydd toriadau'r BBC,' medd Llafur

Rhodri Talfan Davies aIan Jones
Image caption Cyfarwyddwr BBC Cymru, Rhodri Talfan Davies, a Phrif Weithredwr S4C, Ian Jones

Mae toriadau i'r BBC yn fygythiad i ddyfodol S4C, yn ôl llefarydd y Blaid Lafur ar ddiwylliant wrth annerch Tŷ'r Cyffredin.

Galwodd AS y Rhondda, Chris Bryant, am sicrwydd i'r unig sianel Gymraeg wrth i Lywodraeth y DU gyhoeddi adolygiad o'r BBC.

Eisoes mae'r Ysgrifennydd Diwylliant, John Whittingdale AS, wedi dweud y dylai S4C anelu at wneud yr un arbedion â'r BBC.

Dywedodd Mr Bryant fod cyllideb S4C wedi ei thorri o 33% ers 2010, gyda thoriad o 20% arall yn debygol wedi cytuno'r ffi'r drwydded.

£75m

Mae S4C yn derbyn y rhan fwyaf o'u harian - £ 75 miliwn - o ffi drwydded y BBC, gyda £7 miliwn yn uniongyrchol gan Lywodraeth y DU.

Wrth lansio Papur Gwyrdd ac ymgynghoriad cyhoeddus ar ddyfodol y BBC, dywedodd Mr Whittingdale wrth ASau mai S4C oedd un o'r gwasanaethau wedi eu gwarchod yn ystod cyfnod siarter flaenorol y BBC.

Wrth gyfeirio at ei ddatganiad yn gynharach yn y mis, dywedodd: "Bydd disgwyl i S4C ddod o hyd i arbedion tebyg i rai yn y BBC".

Image caption Mae Chris Bryant yn honni nad yw pobl Cymru yn credu fod cyllid S4C wedi'i diogelu

Galwodd Mr Bryant ar yr ysgrifennydd i warchod cyllid S4C ac i ymgynghori gyda llywodraeth a phobl Cymru cyn gwneud ynrhyw benderfyniad.

"Mae'r Ysgrifennydd Gwladol yn dweud bod cyllid S4C wedi ei warchod yn ystod y cyfnod siarter diwethaf - nid dyma farn unrhyw un yng Nghymru," meddai.

"Nid fel yma yr oedd hi mewn gwirionedd, gan fod y gyllideb wedi ei thorri o 33% ers 2010 ac mae awgrymiadau fod toriad o 20% ymhellach ar y gweill.

"Prin fod cyfeiriad at hyn yn y Papur Gwyrdd o gwbl, felly rwyf yn cymryd nad yw'n cael ei ystyried yn ddifrifol."

Ymrwymiad

Wrth ymateb i alwadau tebyg AS Llanelli, Nia Griffith, dywedodd yr Ysgrifennydd Diwylliant fod ymrwymiad i S4C "o fewn y ddwy flynedd nesaf" a'i fod yn gobeithio cynnal trafodaethau gyda rheolwyr y sianel yn y dyfodol agos.

Mae'r ddogfen ymgynghori yn dweud fod rôl y BBC wrth gefnogi ieithoedd cynhenid ​​o fewn Ynysoedd Prydain yn "arbennig o bwysig".

Fodd bynnag, mae'r ddogfen yn nodi bod "cyrhaeddiad y gynulleidfa wedi bod yn gostwng ar draws rhai gwasanaethau ieithoedd brodorol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, yn enwedig yng Nghymru".

Mae'n dweud bod y ffaith fod cost fesul awr rhaglenni radio yn yr iaith Gymraeg yn uwch nag allbwn Saesneg "yn codi pryderon ynglŷn â gwerth am arian".

'Ymylol'

Dywedodd Aled Powell, llefarydd darlledu Cymdeithas yr Iaith: "Wrth edrych ar yr ymgynghoriad, mae S4C a'r Gymraeg yn edrych yn ymylol i'r ddogfen.

"Mae'r llywodraeth eisoes wedi gwneud toriadau enfawr sy'n peryglu bodolaeth ein hunig sianel Gymraeg. Mae'r sianel a'r Gymraeg eisoes wedi talu pris anghymesur am y dirwasgiad.

"Nawr bod y dirwasgiad drosodd, pam nad oes awgrym bod cyllideb y sianel yn mynd i ddychwelyd i'r lefelau cyn y toriadau? Dylai'r Llywodraeth adfer y buddsoddiad yn S4C i'r lefelau oedd cyn y dirwasgiad ac ail-osod fformiwla ariannu'r sianel mewn statud.

"Nid sianel gyffredin yw S4C, ond darlledwr a sefydlwyd gan ymgyrch dorfol gyda nifer o bobl yn aberthu eu rhyddid i ddod â hi i fodolaeth."