Ymddiheuro am ddiffyg crysau Pêl-droed Cymru

Gareth Bale Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Mae gan JD Sports gytundeb unigryw gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi ymddiheuro i gefnogwyr wedi i grysau'r tîm cyntaf werthu allan oherwydd "galw digynsail".

Mae Cymru bellach yn 10fed yn rhestr detholion Fifa, ac mae'r tîm ar y trywydd i gyrraedd rowndiau terfynol Euro 2016.

Mae crysau cartref Cymru wedi gwerthu allan ar-lein ac mae stoc yn brin mewn siopau.

Mewn datganiad ar y cyd gyda'r cyflenwr, JD Sports, ymddiheurodd y gymdeithas a dywedodd y byddai'r crysau newydd ar gael "o fewn yr wythnosau nesaf".

Mae BBC Cymru ar ddeall bod yr archeb wreiddiol am y crysau wedi ei wneud cyn i Gymru gael llwyddiant yng ngemau rhagbrofol Pencampwriaeth Ewrop.

Rhwystredigaeth

Cysylltodd un cefnogwr â BBC Cymru i fynegi ei rwystredigaeth wedi iddo fethu a phrynu crys.

Mae BBC Cymru wedi siarad â nifer o siopau JD Sports.

Roedd crys gartref Cymru wedi gwerthu allan yn llwyr yn eu cangen yng nghanol Caerdydd, a dim ond un crys mewn maint 'XXL' oedd ar gael yn eu siop yn Abertawe.

Mae CBDC a JD Sports yn dweud eu bod "wedi adolygu'r niferoedd stoc ac wedi archebu mwy, er mwyn ateb y galw yn y dyfodol".

Mae gan JD Sports gytundeb unigryw gyda CBDC, sy'n golygu bod crysau Cymru ar gael mewn siopau JD ac ar wefan y cwmni yn unig.