Cwest: Posib y byddai gwregys wedi achub dynes feichiog

Sophie Williams Image copyright Wales News Service
Image caption Fe wnaeth Sophie Williams dorri ei dwy goes a dioddef anafiadau i'w phen yn y gwrthdrawiad

Mae cwest wedi clywed y gallai dynes feichiog fu farw mewn damwain car fod wedi goroesi pe bai hi'n gwisgo gwregys diogelwch.

Roedd gan Sophie Williams, 20 oed, ei thraed ar banel blaen y car i'w gwneud yn fwy cyfforddus pan fu'r car oedd yn cael ei yrru gan ei chariad Ben Morgan mewn gwrthdrawiad ger Glyn Ebwy y llynedd.

Clywodd y cwest yng Nghasnewydd bod ei phlentyn heb ei eni wedi marw'n ogystal.

Gan gofnodi rheithfarn naratif, dywedodd y crwner ei bod yn bosib y gallai gwregys diogelwch wedi achub ei bywyd.

Diwrnod Sant Ffolant

Clywodd y cwest bod y cwpl yn dychwelyd o bryd o fwyd diwrnod Sant Ffolant pan wnaeth gwynt cryf chwythu car arall i mewn i Peugeot Mr Morgan ar yr A465, ffordd Pennau'r Cymoedd.

Fe wnaeth Ms Williams o Dredegar, Blaenau Gwent, dorri ei dwy goes a dioddef anafiadau i'w phen.

Fe wnaeth llawfeddygon yn Ysbyty Nevill Hall yn Y Fenni berfformio llawdriniaeth Cesaraidd brys, ond nid oedd yn bosib achub ei merch. Bu farw Ms Williams ychydig wedi hynny.

Fe ddaeth Dirprwy-Grwner Gwent, Wendy James i'r canlyniad bod y marwolaethau wedi bod o ganlyniad i wrthdrawiad ffordd.

"Doedd Sophie ddim yn gwisgo ei gwregys diogelwch ar y pryd," meddai.

"Pe bai hi wedi bod yn eistedd yn y safle arferol mae hi'n gwbl bosib na fyddai ei hanafiadau wedi bod yn farwol."