Cymeradwyo ysgol uwchradd Gymraeg yng Nghasnewydd

Ysgol Ywchradd Duffryn Image copyright Google
Image caption Does dim ysgol uwchradd Gymraeg yng Nghasnewydd ar hyn o bryd

Bydd ysgol uwchradd Gymraeg yn cael ei chreu yng Nghasnewydd wedi i gynghorwyr gymeradwyo'r cynllun.

Fe fydd y cynlluniau yn gweld disgyblion yn cael eu cartrefu ochr yn ochr ag ysgol Saesneg Ysgol Uwchradd Duffryn o fis Medi 2016, a'r safle yn cael ei ehangu.

Bydd yr ysgol newydd, y gyntaf o'i bath yng Nghasnewydd, yn derbyn disgyblion o'r ddinas a rhan o Sir Fynwy.

Mae'r awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru i gyfarfod y gost o £17m ar y cyd.

Mae Lynne Davies, cadeirydd grŵp Rhieni dros Addysg Gymraeg (RhAG), wedi croesawu'r penderfyniad gan gabinet Cyngor Casnewydd.

Dywedodd ei fod yn "benllanw degawdau o ymgyrchu, addysgu a gwaith caled" fydd yn nodi "cyfnod newydd a chyffrous i'r iaith Gymraeg yn yr ardal".