Taliadau gofal: Sefyllfa 'ddim digon da' medd AC

Gofal iechyd Image copyright Thinkstock
Image caption Mae dros £50m wedi ei dalu yn ôl i deuluoedd am gostau fel ffioedd cartrefi gofal, ond yn aml wedi oedi hir

Nid yw'r gwaith o leihau oedi wrth brosesu ceisiadau am daliadau am ofal parhaol gan y Gwasanaeth Iechyd yn ddigon da yn ôl Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, er ymdrech i wella'r sefyllfa.

Mae Darren Millar yn disgwyl i Lywodraeth Cymru roi mwy o wybodaeth yr wythnos nesaf ynglŷn ag ymdrechion i ddatrys y broblem, sydd wedi parhau ers tro.

Ond mae'n dweud bod yr ymateb hyd yn hyn yn awgrymu nad yw byrddau iechyd lleol - sy'n penderfynu ar geisiadau ac yn talu am y gofal - yn darparu digon o adnoddau i geisio datrys y broblem.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod byrddau iechyd yn penodi staff ychwanegol i ddelio gyda hen geisiadau, ac y byddan nhw'n rhoi mwy o hyfforddiant i staff.

£50m

Mae'r Gwasanaeth Iechyd yn gyfrifol am dalu am ofal hirdymor i bobl am resymau iechyd, beth bynnag yw eu sefyllfa ariannol.

Yn y gorffennol, nid oedd llawer o bobl yn hawlio'r taliadau oherwydd doedden nhw ddim yn ymwybodol o'u hawl i wneud hynny, neu am nad oedden nhw'n gymwys i dderbyn y taliadau.

Dros y ddegawd ddiwethaf, mae dros £50m o daliadau cartrefi gofal a llog wedi ei roi yn ôl i deuluoedd o Gymru, yn aml wedi oedi sylweddol.

Mae un tîm canolog wedi ei leoli ym Mhowys wedi helpu i leihau'r nifer fawr o geisiadau sydd heb eu prosesu, ond mae'r gyfreithwraig Lisa Morgan yn dweud bod mwy o oedi gydag achosion sydd wedi eu dal yn ôl gan fyrddau iechyd.

"Nid oedd ganddyn nhw dim i ddelio gyda cheisiadau ôl-weithredol ac mae'n glir nad oedd yn flaenoriaeth i fyrddau iechyd lleol," meddai.

"Yn anffodus mae teuluoedd wedi bod yn aros yn sylweddol i'w hachosion gael eu hystyried."

'Ddim digon da'

Image caption Mae Darren Millar yn dweud nad yw'r sefyllfa yn ddigon da ar hyn o bryd

Mae'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus wedi ymchwilio i ofal parhaol y GIG dwywaith yn y ddwy flynedd diwethaf.

Fe wnaeth adroddiad diwethaf y pwyllgor naw o argymhellion gafodd eu derbyn gan Lywodraeth Cymru.

Mae Mr Millar yn disgwyl diweddariad ar yr argymhellion yr wythnos nesaf, ond mae'n credu bod profiad etholwyr yn awgrymu "nad yw'r gwelliant wedi bod yn ddigon da".

"Mae angen i ni weld gweithredu penderfynol gan fyrddau iechyd a Llywodraeth Cymru i roi'r adnoddau angenrheidiol i mewn i ni gael gwared ar y ceisiadau sydd wedi gorfod aros," meddai.

"Oherwydd mae 'na achosion, yn anffodus, sy'n mynd yn ôl nifer o flynyddoedd ac mewn rhai achosion mae pobl wedi marw yn y cyfamser.

"Nid yw hynny'n ddigon da."

Y llynedd fe wnaeth Llywodraeth Cymru gymryd camau i leihau nifer yr apeliadau a cheisiadau ôl-weithredol yn ymwneud a gofal parhaol y GIG.

Cafodd y fframwaith ei hadolygu ac roedd newidiadau i'r system hyfforddi.

Mewn datganiad, dywedodd Llywodraeth Cymru: "Mae byrddau iechyd yn penodi staff ychwanegol i ganolbwyntio ar geisiadau ôl-weithredol ac fe fyddwn ni'n canolbwyntio ar fuddsoddi adnoddau ychwanegol mewn hyfforddi staff i sicrhau bod ceisiadau yn cael eu datrys yn gywir y tro cyntaf a lleihau'r angen am daliadau ôl-weithredol."