Morgannwg yn curo Caint o un rhediad

Ingram

Mae Morgannwg wedi curo Caint o un rhediad yn y Bencampwriaeth 20 Pelawd.

Sgoriodd Graham Wagg 53 heb fod allan wrth i Forgannwg gyrraedd 179 am 7 yn eu 20 pelawd.

Daeth cyfraniadau hefyd gan Rudolph, 37, a Cooke, 36. Matthew Hunn oedd y gorau o fowlwyr y tîm cartref, gan gymryd tair wiced.

Gyda tharged o 180 i sicrhau'r fuddugoliaeth, dechreuodd Caint yn dda a chyrraedd 59 cyn colli eu wiced gyntaf.

Sgoriodd Joseph Denly 70 cyn cael ei ddal oddi ar fowlio David Lloyd, a sgoriodd Sam Northeast 38 cyn cael ei ddal oddi ar fowlio Wagg.

Roedd Caint angen 13 o'r belawd olaf i ennill. Llwyddodd Calum Haggett i sgorio 4 a sgoriodd Darren Stevens 6 cyn colli ei wiced i'r bêl nesaf.

Roedd Caint angen 3 o'r bêl olaf, ond collodd Haggett ei wiced wrth fynd am rediad ychwanegol i sicrhau'r fuddugoliaeth i Forgannwg.