poster
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Galw am gymorth i bobl trawsrywiol

17 Gorffennaf 2015 Diweddarwyd 22:18 BST

"Heb gefnogaeth teulu a ffrindiau, mi faswn i wedi lladd fy hun."

Dyna eiriau Cymro 19 oed sy'n galw am fwy o gymorth i bobl ifanc trawsrywiol eraill.

Mae Ethan Jenkins yn rhan o gynllun wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru i godi ymwybyddiaeth o bobl drawsrywiol yn ein cymdeithas.

Wrth siarad ag Iwan Griffiths, mi ddywedodd o hefyd bod angen i'r llywodraeth gynnig triniaethau newid rhyw yma yng Nghymru.