Rhybudd algae ger traeth

traeth Image copyright Sid howells/geograph

Mae ymwelwyr i draeth ym Mhenfro wedi eu rhybuddio i osgoi nant gerllaw ar ôl i algae peryglus gael ei ddarganfod yno.

Mae'r algae gwyrdd-las yn creu tocsinau sy'n gallu achosi salwch, poen stumog, cyfogi a chur pen os bydd yn cael ei lyncu.

Dywed Cyngor Penfro y gallai ladd anifeiliaid.

Mae pobl wedi cael rhybudd i beidio â nofio yn y nant ar draeth Dwyrain Freshwater, ag i beidio ag yfed y dŵr na bwyta pysgod sydd wedi eu dal yn y nant.