Tân gwair uwchlaw Aberystwyth nos Sadwrn

tan
Image caption Y fflamau ar Ben Dinas

Fe dderbyniodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru nifer fawr o alwadau o achos tân ar lethrau Pen Dinas yn Aberystwyth nos Sadwrn.

Disgrifiodd trigolion lleol yr olygfa fel un ddramatig ac roedd modd gweld fflamau a mwg yn codi o'r mynydd o bell.

Fe gafodd y gwasanaeth tân ei alw i'r digwyddiad am 22:00. Roedd y tân wedi difrodi 12 acer o dir ac mae diffoddwyr tân yn cadw golwg ar y safle ddydd Sul er mwyn sicrhau fod y gwreichion wedi diffodd.