Corff pysgotwr oedd ar goll wedi ei ddarganfod ar draeth

Traeth Bae Cinmel Image copyright Mat Fascione/Geograph
Image caption Fe gafodd gorff Brian Hughes ei ddarganfod ar y traeth ym Mae Cinmel ddydd Sul

Mae'r heddlu wedi cyhoeddi mai corff pysgotwr oedd ar goll sydd wedi ei ddarganfod ar draeth yng ngogledd Cymru.

Fe gafodd gorff Brian Hughes, 66 oed o Gonwy, ei ddarganfod ychydig cyn 17:30 ddydd Sul ym Mae Cinmel yng Nghonwy.

Roedd y gwasanaethau brys wedi bod yn chwilio am Mr Hughes, oedd yn cael ei adnabod fel 'Bychan', a'i gwch - Susie Mo II - ers dydd Mercher wedi i aelod o'i deulu fynegi pryder.

Fe gafodd ardal rhwng Llandudno a'r Rhyl ei chwilio am ddau ddiwrnod cyn dod i ben ddydd Iau.