Ergyd arall i ddarlledu Cymraeg?

Gwion Lewis yn gweld drosto ei hun sut mae'r Ffindir yn darlledu i leiafrifoedd ieithyddol
Image caption Gwion Lewis yn gweld drosto ei hun sut mae'r cyfryngau yn y Ffindir yn darlledu i leiafrifoedd ieithyddol

Mae'r ansicrwydd yn parhau am ddyfodol darlledu yn Gymraeg yn enwedig ar ôl i Lywodraeth y DU gyhoeddi Papur Gwyrdd ar ddyfodol y BBC ar 16 Gorffennaf.

Yn ei erthygl ddiweddara' i gydfynd gyda'i gyfres 'Cyflwr y Cyfryngau' ar BBC Radio Cymru, mae'r bargyfreithiwr Gwion Lewis yn ystyried a fedr y cyfryngau Cymraeg ddysgu gwersi o brofiadau'r diwydiant yn y Ffindir:

Gwerth am arian?

Mae haf horribilis y cyfryngau Cymraeg yn parhau. Ychydig dros wythnos ers i Ysgrifennydd Diwylliant y DU, John Whittingdale, ddatgan ei bod yn "rhesymol" disgwyl i S4C wneud arbedion pellach, ergyd arall mewn papur gwyrdd a gyhoeddodd ei Adran ynglŷn â dyfodol y BBC.

Mae swyddogion yr Adran wedi sylwi fod y gynulleidfa ar gyfer rhaglenni teledu a radio Cymraeg wedi crebachu. Maen nhw'n amau a ydi S4C a BBC Radio Cymru bellach yn cynnig beth mae nhw'n ei alw yn "werth am arian".

Dyna i chi ymadrodd na chlywais i unwaith wrth ymweld â phrifddinas y Ffindir, Helsinki, ar gyfer pennod ddiweddaraf fy nghyfres 'Cyflwr y Cyfryngau' ar BBC Radio Cymru.

Image caption Gwion gyda chyflwynwyr rhaglen frecwast gorsaf radio Yle X3M

Diwedd y dreth

Ro'n i'n awyddus i ddysgu mwy am gyflwr cyfryngau'r Ffindir ers i lywodraeth y wlad benderfynu dair blynedd yn ôl fod oes eu trwydded deledu nhw ar ben.

Heddiw, treth ddarlledu newydd sy'n ariannu darlledu cyhoeddus yn y Ffindir, a'r taliad yn amrywio yn dibynnu ar incwm yr unigolyn.

Ychydig iawn o wrthwynebiad sydd yna i'r dreth newydd gan fod y mwyafrif yn talu llai nag oedden nhw o dan yr hen drefn.

Ond gan fod cwmnïau hefyd yn gorfod talu'r dreth, a'r dosbarth canol uwch yn talu mwy yn ddi-gwyn, mae mwy o arian yn y pot i wario ar raglenni nag erioed o'r blaen.

Image caption Mae'r Ffineg a'r Swedeg yn cael lle amlwg yn niwylliant y Ffindir

Lleiafrifoedd ieithyddol

Mae hynny'n cynnwys gwario'n sylweddol ar wasanaethau ar gyfer lleiafrif ieithyddol mwyaf y wlad: pobl sy'n siarad Swedeg fel iaith gyntaf. Ymysg y pum miliwn sy'n byw yn y Ffindir, mae bron i dri chan mil o bobl yn byw eu bywydau drwy gyfrwng y Swedeg.

Yn ôl Cyfrifiad 2011, tua 560,000 ohonom sy'n medru'r Gymraeg yng Nghymru. O safbwynt niferoedd, felly, mae cymharu'r ddarpariaeth ar gyfer y ddau leiafrif yn ddilys.

Fel siaradwyr y Gymraeg, mae siaradwyr y Swedeg yn y Ffindir wedi mynnu eu hawliau dros yr hanner canrif diwethaf.

Yng ngoleuni hynny, mae llywodraeth y Ffindir yn gweld y buddsoddiad mewn gwasanaethau Swedeg fel rhywbeth angenrheidiol er mwyn dod â phobl y wlad yn nes at ei gilydd.

Y bwrdd brecwast cynnar

Mae hynny'n cynnwys ariannu nid un, ond dwy orsaf radio uniaith Swedeg ar gyfer pobl y Ffindir: Yle Radio Vega (sy'n debyg iawn i BBC Radio 2), a hefyd Yle X3M, gorsaf Swedeg arall wedi ei thargedu'n llwyr at bobl ifanc, yn debyg i BBC Radio 1 neu C2 Radio Cymru.

Ond yn wahanol i C2, mae Yle X3M yn darparu gwasanaeth ddi-dor ar gyfer pobl ifanc: nid yw'r ddarpariaeth wedi ei chyfyngu i ran penodol o'r dydd.

Mi godais i'n blygeiniol yn Helsinki i ymuno'n y bwrlwm ar raglen frecwast hynod lwyddiannus Yle X3M.

Roedd y negeseuon Snapchat ac Instagram yn llifo i mewn i'r stiwdio ben bore wrth i bobl ifanc ledled y wlad dynnu lluniau o'r awyr, drwy ffenestri bysus ysgol, er mwyn i'r cyflwynwyr fedru cynnig "rhagolygon tywydd mwyaf cywir y Ffindir". Syniad gwirion, yn sicr, ond un sy'n arwain at o leiaf 400 o negeseuon i'r stiwdio ar y gwifrau cymdeithasol bob bore.

Denu gwrandawyr ifanc

Roedd cynhyrchydd y rhaglen frecwast, Anna Forth, yn awyddus i wybod a oedd unrhyw wersi iddyn nhw eu dysgu o'r ddarpariaeth radio ar gyfer pobl ifanc yn y Gymraeg.

Pan eglurais wrthi mai gwasanaeth gyda'r nos yn unig oedd C2 ar BBC Radio Cymru, dywedodd, yn y modd di-flewyn-ar-dafod sy'n nodweddiadol o bobl y Ffindir, fod hynny'n "anobeithiol".

Waeth i chi heb â cheisio apelio at bobl ifanc, meddai hi, os nad ydych chi'n medru cynnig gwasanaeth iddyn nhw drwy'r dydd, bob dydd.

Mae cynnig rhaglen frecwast fywiog yn gwbl hanfodol heddiw, yn ei barn hi, gan fod hynny'n magu arferion gwrando "torfol" ar y bws ysgol, drwy gyfrwng y ffonau clyfar, sy'n sefydlu perthynas rhwng yr orsaf a'r gynulleidfa ar gyfer gweddill y dydd.

Dyma un yn unig o'r nifer helaeth o wersi sydd i'w dysgu heddiw o weld sut mae'r Ffindir yn darparu gwasanaethau teledu a radio ar gyfer ei lleiafrif ieithyddol mwyaf.

Mae cysylltiadau da rhwng Cymru a'r Ffindir eisoes, ond mae lle i'w cryfhau, yn enwedig o weld pa mor boblogaidd yw cynhyrchiad mawr dwyieithog S4C, 'Y Gwyll/Hinterland', ar deledu'r Ffindir.

Image caption Oes 'na le i ehangu oriau darlledu C2 BBC Radio Cymru er mwyn apelio at ragor o bobl ifanc?

Yn ystod y rhaglen yr wythnos hon, mi glywch chi fy hoff gyfweliad o'r gyfres gyfan: sgwrs gyda Mari Koivuhovi, y comisiynydd drama digyfaddawd sydd yn benderfynol y bydd ail gyfres y ddrama dditectif yn cael ei dangos yn y Gymraeg yn dilyn penderfyniad "masnachol" ei phennaeth y llynedd y dylid dangos fersiwn Saesneg y gyfres gyntaf.

Heb unrhyw gefndir Cymreig o gwbl, mae hi'n cwffio achos y Gymraeg yng nghoridorau pencadlys corfforaeth ddarlledu'r Ffindir. Mae gennym gyfeillion yn y llefydd mwyaf annisgwyl.

Cyflwr y Cyfryngau, Dydd Llun 20 Gorffennaf, BBC Radio Cymru, 12:31

Image caption Gwion Lewis yn holi Mari Koivuhovi, comisiynydd drama sydd am weld rhagor o 'Y Gwyll' ar deledu'r Ffindir