Cwmni i dalu costau ynni Canolfan Hamdden Amlwch

Amlwch Leisure Centre Image copyright Google
Image caption Dywedodd y cyngor y byddai cynnig Horizon yn 'hwb enfawr' i Ganolfan Hamdden Amlwch

Mae cyngor wedi derbyn cynnig cwmni i dalu am fesurau ynni adnewyddadwy mewn canolfan hamdden ar Ynys Môn.

Roedd cwmni Horizon Nuclear Power wedi cynnig gosod paneli solar a boeler biomas yng Nghanolfan Hamdden Amlwch.

Pleidleisiodd aelodau Cyngor Môn o blaid y cynnig ddydd Llun.

Roedd y cynnig yn rhan o addewid Horizon i gefnogi cymunedau ger eu hatomfa arfaethedig, Wylfa Newydd.

Mae cynhesu a goleuo'r ganolfan hamdden yn costio dros £100,000 y flwyddyn.

Roedd boeleri olew y ganolfan i fod i gael eu newid erbyn 2018 mewn cynllun fyddai wedi costio tua £200,000.

Straeon perthnasol