Dyn o Gymru wedi marw ar ymweliad â'r Almaen

Ben Rees Image copyright Swansea university student's union
Image caption Fe wnaeth Ben Rees raddio o Brifysgol Abertawe yn 2014

Mae dyn o Aberdâr wedi marw yn Berlin yn Yr Almaen.

Roedd Ben Rees yn gweithio yn Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe ac yn arfer astudio yn y brifysgol.

Dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Dramor: "Rydym yn gallu cadarnhau marwolaeth person o Brydain yn yr Almaen ar 16 Gorffennaf. Rydyn ni yn darparu cefnogaeth i'r teulu ar yr adeg anodd yma."

Teyrngedau

Ar Twitter mae teyrngedau wedi eu rhoi i Mr Rees oedd yn droellwr mewn clwb nos yn Abertawe.

Dywedodd llefarydd ar ran yr undeb myfyrwyr: "Rydyn ni i gyd yn drist oherwydd marwolaeth ein cydweithiwr a'n ffrind Ben Rees.

"Roedd yn aelod oedd yn fawr ei barch yn yr undeb a bydd colled fawr ar ei ôl.

"Rydyn ni'n cydymdeimlo â'i deulu a'i ffrindiau ar yr adeg anodd hon."