Morgannwg ar ei hôl hi yn erbyn Sir Gaerhirfryn

Ashwell Prince Image copyright Getty Images
Image caption Sgoriodd Ashwell Prince 261 o rediadau cyn colli ei wiced ddydd Llun

Mae Alviro Petersen ac Ashwell Prince wedi rhannu partneriaeth o 501 i Sir Gaerhirfryn yn erbyn Morgannwg ym Mae Colwyn ddydd Llun.

Fe wnaeth Sir Gaerhirfryn ddod â'u batiad i ben ar 698 am 5, wedi sgoriau o 286 a 261 i Petersen a Prince.

Mae'r ddau wedi torri'r record flaenorol i Sir Gaerhirfryn o 371, record sydd wedi sefyll ers 87 o flynyddoedd.

Sgoriodd Steven Croft 57 heb fod allan cyn i James Faulkner golli ei wiced, a daeth yr ymwelwyr â'u batiad i ben.

Ni chafodd Morgannwg y dechrau gorau i'w batiad cyntaf ar ôl iddyn nhw golli tair wiced gynnar.

Mark Wallace oedd prif sgoriwr y tîm cartref gyda 39 heb fod allan wrth i Forgannwg gyrraedd 165 am 6 - 533 o rediadau y tu ôl i Sir Gaerhirfryn.

Straeon perthnasol