Slochian yn Nhai'r Gwaith

Un agwedd ddifyr o hanes y Blaid Lafur yng Nghymru yw'r rôl y chwaraeodd gweinidogion yr Annibynwyr yn ei sefydlu - yn enwedig yn y maes glo caled.

Roedd fy nhad-cu, y Parch T.M Roderick, yn un ohonyn nhw. Fel cyn-löwr ei hun ymaelododd a'r ILP yn 1906 gan adael union ddegawd yn ddiweddarach yn 1916. Penderfyniad y blaid i agor clwb yfed yn Nhai'r Gwaith wnaeth peri iddo adael ac mae'n sicr ei fod yn teimlo fod gorchymyn yr ynadon i gau'r lle oherwydd anrhefn flwyddyn y ddiweddarach wedi cyfiawnhau ei safiad!

Rwy'n adrodd y stori fach yna nawr er mwyn dangos nad rhywbeth newydd yw'r anghytundeb a welwyd yn y Blaid Lafur yr wythnos hon ynghylch diwygio'r gyfundrefn lles.

Mae'r canfyddiad bod 'na ddau ddosbarth o bobol anghenus yn bodoli, y rhai parchus a'r rhai anghyfrifol, yn un sydd â gwreiddiau dyfnion yn ein cymdeithas. Boed hynny'n deg ai peidio mae'r syniad bod 'na rai pobol sy'n haeddu cymorth gan y wladwriaeth ac eraill sydd ddim yn un sy'n canu cloch ym meddwl sawl etholwr.

At y bobol hynny yr oedd negeseuon y Ceidwadwyr ynghylch 'skivers' a 'strivers' wedi ei hanelu ac rwy'n amau y byddai T.M wedi gwahaniaethu yn yr un modd rhwng 'strivers' y Tabernacl a sgeifars clwb Tai'r Gwaith.

Mae'n debyg mai ymdrech i osgoi gweld y Blaid Lafur yn cael ei phortreadu fel plaid y sgeifars oedd penderfyniad Harriet Harman i orchymyn i'w haelodau ymatal yn y bleidlais i gymeradwyo'r mesur diwygio lles.

Y peryg mewn gwneud hynny yw bod mwy mwy o bobl yn gofyn y cwestiwn hwn sef "beth ar y ddaear yw pwrpas y Blaid Lafur os nad yw hi'n fodlon sefyll dros y rhai gwanaf mewn cymdeithas?" Fe fyddai nifer o bobl Llafur yn gweld y cwestiwn yna fel un annheg - ond dyw hynny'n gwneud dim byd i rwystro iddo gael ei ofyn.

Problem fawr y Blaid Lafur yw bod ei phleidlais graidd wedi dirywio'n ddifrifol ers ethol Tony Blair yn brif weinidog yn 1997. Fe ddechreuodd y broses yna yn 2001 ac fe barodd y bleidlais Lafur i ostwng yn 2005 a 2010 gyda mwy a mwy o gefnogwyr traddodiadol y blaid yn dewis eistedd ar eu dwylo ar ddiwrnod yr etholiad.

Eleni cafwyd cynnydd bychan yn y bleidlais Lafur ond gellir priodoli hynny bron yn llwyr i ddarostyngiad y Democratiaid Rhyddfrydol dal i ddirywio wnaeth y bleidlais graidd.

Go brin fod ymatal ynghylch diwygio'r gyfundrefn lles yn mynd i ddenu'r Llafurwyr hynny sydd wedi cefni ar y broses wleidyddol yn ôl i'r gorsafoedd pleidleisio. Y cwestiwn yw sut mae gwneud hynny heb gadarnhau'r union ddelwedd y mae Ms Harman yn ei chasáu gymaint.

Cwestiwn i'r arweinydd nesaf efallai.