Teyrnged i Gymro fu farw ar wyliau yng Nghernyw

Stephen Lewis Image copyright Wales News Service
Image caption Roedd Stephen Lewis ar wyliau gyda'i deulu yng Nghernyw pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad

Mae teyrngedau wedi eu rhoi i swyddog yr heddlu fu farw ar wyliau gyda'i deulu.

Roedd Stephen Lewis, 41 o Gastell-nedd, yn seiclo pan fu mewn gwrthdrawiad yng Nghernyw ddydd Llun.

Dywedodd yr heddlu bod Mr Lewis, oedd yn Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu, wedi bod mewn damwain yn Combe Martin ger Ilfracombe.

Cafodd dyn arall oedd yn seiclo gyda Mr Lewis fân anafiadau, ond ni chafodd y fenyw oedd yn gyrru'r car ei hanafu.

Sioc

Mae Heddlu De Cymru wedi disgrifio Mr Lewis, oedd yn dad, fel llysgennad gwych i'r llu.

Dywedodd y Prif Uwch-arolygydd Joe Ruddy: "Roedd gan Steve yr holl rinweddau i fod yn swyddog cymunedol bendigedig - roedd yn weithiwr caled, yn frwdfrydig ac yn rhywun oedd wrth ei fodd yn helpu eraill.

"Roedd yn llysgennad gwych i Heddlu De Cymru yn y nifer o ddigwyddiadau cymunedol aeth iddyn nhw..."

Ychwanegodd: "Roedd Steve yn aelod uchel ei barch o'r tîm ac mae pawb wedi cael sioc ac yn drist iawn i glywed am ei farwolaeth mewn amgylchiadau mor drasig.

"Mae ein meddyliau gyda'i deulu, ffrindiau a chyd-weithwyr yn y cyfnod trist yma."

Mae'r heddlu yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â nhw ar 101.