Gwerthu medalau rhyfel Violette Szabo am £260,000

George cross Image copyright Dix Noonan Webb
Image caption Cafodd medal Croes George ei rhoi i Violette Szabo ar ôl ei marwolaeth

Mae casgliad o fedalau o'r Ail Ryfel Byd, gan gynnwys Croes George gafodd ei roi i ddynes fu'n gwrthryfela yn erbyn y Natsïaid yn Ffrainc, wedi ei werthu am £260,000.

Cafodd medalau Violette Szabo eu gwerthu o fewn munud, a hynny i gasgliad yr Arglwydd Ashcroft, ac fe fyddant yn cael eu harddangos yn amgueddfa'r Imperial War Museum yn Llundain.

Roedd Szabo yn un o bedair dynes i gael Croes George, a hynny am ei dewrder wrth gynorthwyo gwrthryfelwyr yn Ffrainc yn erbyn y Natsïaid, ar ôl cael ei gyrru yno gan y Fyddin Brydeinig.

Ar ei hail daith yno, cafodd ei dal gan y Gestapo. Cafodd ei harteithio cyn cael ei lladd yn 1945.

Penderfynodd ei merch, Tania Szabo, sy'n byw ger Llanfair-ym-Muallt ym Mhowys, werthu'r casgliad gan nad oes ganddi blant ei hun er mwyn eu pasio ymlaen.

Image copyright Dix Noonan Webb
Image caption Cafodd Violette Szabo ei lladd yn 1945 gan y Gestapo

Straeon perthnasol