Christine James: 'Sefyllfa hynod freintiedig'

Christne James

Wrth iddi baratoi i ymgymryd â'i rôl fel Archdderwydd am y tro olaf yn Eisteddfod Maldwyn a'r Gororau eleni, cyn i Geraint Lloyd Owen ddechrau yn y swydd fis Mehefin nesaf, bu Cymru Fyw yn sgwrsio â Christine James am ei chyfnod wrth y llyw.

Gyda chwta flwyddyn ar ôl o'ch cyfnod fel Archdderwydd, sut fyddech chi'n cwmpasu'r profiad hyd yn hyn?

O'm safbwynt i fy hun, rwy wedi cael y profiad yn un hynod ddiddorol a chyfoethog. Pan ges i fy ethol dair blynedd yn ôl, daeth hynny fel sioc, wedyn roedd 'na ryw flwyddyn o gyfarwyddo â'r syniad cyn cymryd drosodd oddi wrth Jim Parc Nest. Fe dderbyniais i'r swydd gan sylweddoli maint y fraint oedd yn cael ei hestyn i mi, ac rwy wedi gwerthfawrogi hynny'n fawr. Rwy wedi cael cyfle i siarad gyda phobl, i wneud pethau ar ran yr Orsedd. - pethau na fyddwn i byth wedi cael gwahoddiad na chyfle i'w gwneud fel arall.

Mae arwain seremonïau'r Orsedd yn fraint fawr - i weld enillwyr y gwahanol gystadlaethau yn codi ar eu traed yn y pafiliwn, a chael coroni, cadeirio neu roi medal am wddf rywun; mae hynny'n brofiad aruthrol! Rwy wedi bod mewn sefyllfa hynod freintiedig, ac wedi gwerthfawrogi'r cwbl yn fawr iawn.

Sut mae pobl eraill yn tafoli fy nghyfnod i fel Archdderwydd? Bydd rhaid i chi ofyn iddyn nhw! Ond mae pobl wedi bod yn garedig iawn, mae'n rhaid i mi dweud.

Beth ydy'r uchafbwyntiau i chi yn ystod eich cyfnod fel Archdderwydd?

Wel, maen nhw'n dod yn eu tro, gyda phob Eisteddfod. Y seremonïau yn bendant, a'r cyfle i ddathlu'r pethau gwych, y pethai gorau yn ein diwylliant ni fel Cymry. Mae dathlu llwyddiant yn y prif gystadlaethau llenyddol wedi bod yn wefr bob tro.

Uchafbwyntiau eraill yw'r seremonïau ar fore Llun a Gwener, wrth dderbyn aelodau newydd i'r Orsedd. Mae hynny'n cynnwys enillwyr cystadlaethau'r flwyddyn flaenorol, sy'n beth braf, a hefyd y gorseddogion er anrhydedd - hynny yw, pobl sydd wedi cyfrannu i wahanol agweddau ar ein bywyd cenedlaethol ni, rhai sydd wedi rhagori mewn gwahanol feysydd, y maes rygbi, athletau, gwleidyddion, pobl sydd wedi casglu arian mawr ar gyfer elusennau gwahanol, ac yn y blaen. Mae'r gweithgarwch sy'n cael ei gydnabod gan yr Orsedd yn amrywiol iawn.

Mae'r holl bethau hyn yn rhai hynod gadarnhaol. Dyna sy'n rhoi gwefr i mi, gweld y pethau cadarnhaol sy'n digwydd yn y gymdeithas. Mae hyn oll yn newyddion da, pan fydd y newyddion ar y teledu a'r radio yn ein llethu â phethau cwbl negyddol mor aml.

Llawer o uchafbwyntiau, felly. Ond beth am isafbwynt? Oes 'na un?

Un siom fawr ges i oedd peidio â chael cadeirio yn fy mlwyddyn gynta' fel Archdderwydd yn Ninbych, 2013. Rwy'n siŵr fod pob Archdderwydd yn eu tro yn gobeithio am y gamp lawn, a gwobrwyo ym mhob seremoni. Felly roedd peidio â chadeirio ar y dydd Gwener cynta 'na yn Ninbych yn siom. Ond rwy'n edrych 'mlaen at wythnos yr Eisteddfod ym Meifod ac yn gobeithio y bydd enillydd yn codi ym mhob seremoni eleni.

Pan gawsoch chi'ch dewis, fe ddywedoch eich bod chi'n awyddus i weld yr Orsedd yn dod yn fudiad mwy democrataidd sy'n cynrychioli'r genedl gyfan. Ydych chi wedi gweld camau pendant i'r cyfeiriad hwnnw?

Mae hwnnw'n gwestiwn anodd i'w ateb. Mewn un ffordd, dydw i ddim mewn safle i weithredu hynny'n uniongyrchol. Ond, o safbwynt derbyn aelodau er anrhydedd ac yn y blaen, rwy wedi cael fy mhlesio bob blwyddyn gan yr amrywiaeth o feysydd sy'n cael eu cynrychioli - mae pobl o bob math o gefndir gwahanol wedi dod yn aelodau o'r Orsedd yn ystod y tair blynedd diwethaf.

Rydyn ni hefyd wedi gweld pobl o gefndiroedd ieithyddol amrywiol yn dod yn aelodau o'r Orsedd, ac fel rhywun sydd wedi dysgu Cymraeg - amser maith yn ôl bellach, rwy'n pwysleisio hynny! - mae hynny'n rhoi gwefr arbennig i fi, i groesawu pobl eraill o gefndir ail iaith o dro i dro.

Image caption Fe enillodd Christine James y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Eryri a'r Cyffiniau, 2005

Fe ddywedoch chi ar y pryd, hefyd, na fyddai'n hawdd chwalu'r syniad o'r Orsedd fel corff 'elite'. Ydych chi'n fodlon bod yr Orsedd yn symud i'r cyfeiriad cywir?

Nid peth sy'n digwydd dros nos ydi newid unrhyw syniad, ond rwy'n gobeithio ein bod ni ar lwybr sy'n symud oddi wrth feddwl am yr Orsedd fel 'elite'. Mae gennym aelodau o bob math o gefndiroedd academaidd, galwedigaethol ac ieithyddol. Yn ara' bach, mae pethau'n newid.

Fe gymrodd fy rhagflaenydd, y cyn Archdderwydd Jim Parc Nest, gam pendant i'r cyfeiriad hwnnw cyn fy nghyfnod i, drwy wneud y lliwiau yn gyfartal. Urdd Derwydd sydd i bawb erbyn hyn, a'r lliwiau gwahanol yn cynrychioli maes y cyfraniad, nid maint y cyfraniad.

Be' fyddech chi'n dweud yw'r stamp 'dy chi wedi ei osod ar yr Orsedd yn eich cyfnod chi?

Dydw i ddim yn gwybod a ydw i wedi gosod unrhyw stamp arbennig arni, fel y cyfryw. Falle y byddai ychydig yn haerllug i mi awgrymu mai fi sy wedi newid unrhyw beth yn benodol. Efallai y dylid gofyn y cwestiwn hwnnw i rywun arall.

Yr unig beth y galla' i ei ddweud ar y pwynt hwn yw fy mod i wedi trio bod yn fi fy hun fel Archdderwydd, a cheisio dangos agweddau ar fy mhersonoliaeth i - y ffaith 'mod i'n fenyw, ac yn fenyw sy'n hoffi cwrdd â phobl ac yn hoffi cyfathrebu. Rwy'n gobeithio bod yr elfennau hynny wedi dod mas yn y ffordd rwy wedi arwain y seremonïau.

Fel y fenyw gyntaf i fod yn Archdderwydd, ydych chi'n credu eich bod chi wedi agor y drws i fenywod eraill fyddai â diddordeb?

Gobeithio bod hynny'n wir. Mae'r ffaith bod merch wedi bod yn Archdderwydd yn sicr yn agor y drws i ragor o ferched gael dilyn maes o law. Dyw hynny ddim yn mynd i ddigwydd ar unwaith, mae'n amlwg, gany gwyddom bellach mai Geraint Llifon fydd yr Archdderwydd nesaf. Ond ymhen tair blynedd, fe fydd y drws yn agor eto, a phwy a ŵyr pwy fydd yn camu drwyddo wedyn.

Pa gyngor sydd gennych chi i'r Archdderwydd newydd?

Fel mae'n digwydd rwy' wedi cael sgwrs â Geraint yn barod. Y cyngor syml oedd gen i iddo oedd "byddwch yn chi eich hunan".

Pan ddaw'ch amser chi fel Archdderwydd i ben? Sut fyddwch chi'n edrych yn ôl ar y cyfnod?

Byddaf yn sicr yn edrych 'nôl ar y blynyddoedd diwethaf hyn fel rhai diddorol. Maen nhw wedi fy nghyfoethogi i'n fawr fel person, rwy wedi dysgu cymaint o bethau o fod yn y swydd 'ma, ac wedi cael cyfleoedd difyr ac amrywiol. Atgofion melys iawn fydd gen i - gan obeithio na fydd unrhyw beth yn cymylu hynny o hyn tan fis Mehefin nesaf!

Rwy'n cofio Eisteddfod Meifod 2003 yn glir. Dyna'r tro cyntaf i mi gystadlu yn yr Eisteddfod Genedlaethol, fel mae'n digwydd, felly mae'n dynodi rhyw fath o garreg filltir i mi'n bersonol. Eisteddfod y gwres mawr oedd 2003, wrth gwrs. Ac rwy'n gobeithio y bydd 'na wres mawr ym Meifod eto eleni, dim o reidrwydd o feddwl am y tywydd, ond o ran tanbeidrwydd, egni a brwdfrydedd y cystadlu a'r mwynhau ar y maes. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr!

Image caption Bu croesawu aelodau newydd i'r Oresedd yn uchafbwynt i Christine James

Mwy o newyddion a straeon o Eisteddfod 2015